Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud bod gwasanaethau bysiau “yn gwbl hanfodol i ardaloedd gwledig”.

Daw ei sylwadau ar ôl iddi grybwyll toriadau arfaethedig yng Ngheredigion wrth siarad yn y Senedd yr wythnos hon.

Dros y misoedd diwethaf, mae nifer o doriadau i wasanaethau wedi’u cyflwyno gan Gyngor Ceredigion a gweithredwyr annibynnol.

Ers diwedd mis Rhagfyr y llynedd, mae tri gwasanaeth oedd yn cael eu hariannu’n rhannol wedi dod i ben, sef cylchdaith Tregaron, y gwasanaeth rhwng Penrhyncoch a Phontrhydybeddau, ac un arall rhwng Aberystwyth a Phontarfynach.

Mae bysiau’n rhedeg yn llai aml ar dri llwybr arall, sef y rheiny rhwng Aberystwyth a Phonterwyd, Penrhyncoch a Llanbed heibio i Dregaron.

Mae cwmni Mid Wales Travel hefyd wedi haneru gwasanaethau ar dri llwybr, o ganol tref Aberystwyth i’r brifysgol, i Borth ac Ynyslas, a chylchdaith Penparcau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Brys gafodd ei gyflwyno yn ystod y pandemig Covid-19 yn dod i ben, ac mae disgwyl iddo ddod i ben ym mis Mehefin ar ôl ei ymestyn am dri mis arall.

Gyda nifer y teithwyr yn dal i fod yn is ers y pandemig, mae cwmnïau bysiau’n rhybuddio y gallai teithiau a gwasanaethau ddod i ben.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu pecyn o fesurau gafodd eu hamlinellu mewn adroddiad gan Gonffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr.

Bwriad y mesurau yw cynyddu pa mor ddeniadol yw rhwydweithiau bysiau a gwneud teithiau bysiau’n rhatach, ac mae’r blaid yn galw am wario arian gaiff ei arbed gan ganslo gwaith adeiladu ffyrdd o ganlyniad i Adolygiad Ffyrdd y llywodraeth, ar wasanaethau bysiau.

‘Dydy’r toriadau diweddaraf ddim yn dderbyniol’

“Mae gwasanaethau bysiau’n gwbl hanfodol i ardaloedd gwledig fel Ceredigion, o adeiladu economi gref i fynd i’r afael ag unigrwydd, i gadw pobol ifanc yn y sir i fynd i’r afael â newid hinsawdd,” meddai Jane Dodds.

“Dydy’r toriadau diweddaraf ddim yn dderbyniol.

“Dydy hi ddim yn ddigon i Blaid Cymru feio Llafur, mae ganddyn nhw Gytundeb Cydweithio gyda nhw yn y Senedd ac maen nhw’n medru dylanwadu polisi Llywodraeth Cymru.

“Mae angen iddyn nhw ddefnydio’u partneriaeth i amlinellu llinellau coch a gwthio am ddatrysiadau.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau gafodd eu hamlinellu mewn adroddiad gan Gonffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr yn gynharach eleni.

“Dw i hefyd eisiau gweld Llywodraeth Cymru’n buddsoddi’n uniongyrchol unrhyw arian gaiff ei arbed drwy ganslo prosiectau mawr adeiladu ffyrdd yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau.

“Allwn ni ddim disgwyl i bobol symud i ffwrdd o geir os nad yw dull amgen o drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yn cael ei ddarparu yn ei le.

“Mae angen i ni weld Llywodraeth Cymru’n amlinellu opsiwn amgen cynaliadwy yn lle’r Cynllun Brys Bysiau, allan nhw yn syml iawn ddim gadael i lwybrau gwympo oddi ar y dibyn fel sydd wedi bod yn digwydd eisoes yng Ngheredigion.”