Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £194m i helpu gyda’r perygl o lifogydd ers i Storm Dennis daro’r wlad yn 2020.

Mae hyn yn cynnwys dros £13m i awdurdodau lleol i’w helpu i leihau’r risg o lifogydd ar gyfer dros 6,500 o eiddo, a thros £9.3m o gyllid brys sydd wedi’i roi i Gyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i drwsio seilwaith llifogydd critigol.

Yn ogystal â hyn, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i’w rhaglen lifogydd fwyaf erioed, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol gwerth dros £214m dros gyfnod o dair blynedd.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd newid hinsawdd yn gwneud tywydd eithafol yn fwy tebygol a rydym yn rhagweld y bydd yn gwneud iddi lawio mwy a glawio’n drymach yng Nghymru,” meddai Julie James, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru.

“Yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn yn parhau i fuddsoddi’n helaeth mewn rheoli ac amddiffyn rhag llifogydd er mwyn gwneud ein cymunedau, ein heconomi a’n hamgylchedd yn fwy gwydn.”