Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am newid y polisi o ran lladd heffrod a buchod sy’n magu lloi fel rhan o’u polisi i geisio dileu’r diciâu.
Bu Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, yn holi Llywodraeth Cymru ynghylch eu polisi lladd “annynol a di-galon” ar gyfer heffrod a buchod sy’n magu lloi ac sy’n profi’n bositif am yr afiechyd.
“Bob wythnos, mae ffermwyr Cymru yn gorfod lladd eu buchod a’u heffrod mewnol eu hunain, o flaen gweddill eu buches ar y fferm,” meddai.
“Mae’r polisi annynol a di-galon hwn yn rhoi straen meddwl anfesuradwy ar ein ffermwyr ac ni all fod y ffordd orau o’i wneud, er gwaethaf ateb y gweinidog.
“Does dim tosturi yn y weithred hon; ddim ar gyfer y fuwch, y llo ac yn sicr ddim ar gyfer y ffermwr.
“Pe bai Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch lles ffermwyr ac anifeiliaid, yna bydden nhw’n newid y polisi hwn cyn gynted â phosibl.
“Rwy’n falch fod yr Ysgrifennydd Materion Gwledig yn fodlon gweithio gyda’r diwydiant i ailystyried y canllawiau lladd hyn.”
‘Arswydus’
Yn ystod y sesiwn lawn, soniodd Samuel Kurtz am ing un ffermwr o Gymru, yn dilyn prawf diciâu positif, yn gorfod lladd ei fuwch feichiog tra bod ei llo heb ei eni yn mygu y tu mewn i groth ei mam.
Soniodd yr un ffermwr hwnnw am sut y bu i’r fuwch ddinistrio giât fferm drom mewn gwingiad.
Cafodd y lladd ei ddisgrifio fel “rhywbeth tebyg i wylio rhywun yn marw o wenwyn; roedd yn arswydus gweld ac roedd clirio’r holl waed a’r giât wedi’i malu’r un mor wael fel cosb”.
Wrth ymateb i gais Samuel Kurtz am newid y polisi lladd, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, ei bod yn fodlon ailystyried y canllawiau ar ladd buchod a heffrod sy’n magu lloi gafodd eu rhoi i ffermwyr Cymru.