Mae nifer o fenywod yn teimlo bod y cyfryngau cymdeithasol yn aml yn ffynhonnell well o wybodaeth am y menopos na’r Gwasanaeth Iechyd, yn ôl ymchwiliad newydd.

Fel rhan o adroddiad i wasanaethau menopos y gogledd, dywedodd y rhan fwyaf o’r menywod gafodd eu holi fod y cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu iddyn nhw siarad ag eraill a rhannu gwybodaeth a phrofiadau.

Roedd pawb wnaeth rannu eu barn â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC) yn teimlo mai ychydig o feddygon teulu sydd â gwybodaeth ddigonol o’r menopos a’i driniaeth.

Gydag ambell eithriad, roedden nhw’n teimlo bod meddygon teulu benywaidd “ychydig bach” yn fwy gwybodus na rhai gwrywaidd.

‘Brwydro am driniaeth’

Cafodd yr ymchwil ei chynnal yn ystod Hydref y llynedd, a chafodd cleifion, eu gofalwyr a theuluoedd eu gwahodd i siarad am bob agwedd ar Wasanaethau Iechyd Gogledd Cymru sy’n effeithio ar bobol wrth fynd drwy’r menopos.

“Er y bu cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o’r menopos yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ychydig o fenywod a oedd yn gwybod am symptomau posibl y tu hwnt i fflyshes poeth,” meddai Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog CICGC.

“Nid oedd llawer yn ymwybodol eu bod mewn perimenopos ac i rai roedd symptomau’r menopos yn drallodus ac yn wanychol – yn aml yn effeithio ar eu bywyd gartref, gwaith a pherthnasoedd.

“Roedd y rhan fwyaf a siaradodd â ni wedi darganfod bod cyfryngau cymdeithasol yn aml yn ffynhonnell well o wybodaeth na’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – yn enwedig yn ystod y pandemig – ac yn caniatáu iddyn nhw siarad ag eraill a oedd yn mynd drwy’r menopos ac i rannu gwybodaeth a phrofiadau.

“Fodd bynnag, fel y gall fod yn wir yn aml, gall gwybodaeth sydd ar gael ar y we fod yn wrthgyferbyniol ac yn ddryslyd a gall fod yn anodd gwybod ar bwy i wrando.

“Gallai hyn fod yn rhywbeth y gallai ein bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru helpu ag e.”

Yn ôl yr ymchwiliad, roedd pob un o’r menywod yn teimlo bod rhaid iddyn nhw frwydro am y driniaeth maen nhw’n ei chael nawr.

“Teimlai’r rhan fwyaf ohonyn nhw fod yn rhaid iddyn nhw dalu am driniaeth breifat i gael diagnosis yn ogystal â chyngor gwybodus ac effeithiol ar feddyginiaeth a gofal,” meddai Geoff Ryall-Harvey.

‘Amser aros yn hirach na hoffem weld’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywed Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Menywod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod nhw’n diolch am waith y Cyngor fydd yn eu helpu i ddeall lle mae modd gwneud gwelliannau a sut i rannu arfer da.

“Rydym yn darparu clinigau menopos arbenigol yn Ysbyty Glannau Dyfrdwy a Wrecsam Maelor i fenywod ar draws Gogledd Cymru sy’n ceisio cyngor a chefnogaeth ar y menopos,” meddai.

“Mae cydweithwyr gofal sylfaenol wedi cael gwybod am argaeledd y gwasanaethau hyn.

“Fodd bynnag, oherwydd y galw cynyddol, mae’r amser aros am y gwasanaethau hyn yn hwy nag yr hoffem, ac i’n helpu i ddatblygu ac ehangu ein gwasanaethau rydym yn aros am adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymru Gyfan ar y Menopos yn ddiweddarach y mis hwn.”