Mae Mark Isherwood, Aelod o’r Senedd Ceidwadol Gogledd Cymru, wedi galw am wneud mwy i sicrhau nad yw ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru yn wynebu digartrefedd yn y pen draw.

Daw hyn yn dilyn datganiad ddoe (dydd Mercher, Chwefror 15) gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd Mark Isherwood: “Mae adroddiadau bod llawer o ffoaduriaid o’r Wcráin yng Nghymru wedi siarad â’r cyfryngau am yr anawsterau y mae llawer ohonyn nhw’n eu cael wrth ddod o hyd i lety a’i gadw.

“Er enghraifft, mae ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi noddi wedi cael gwybod nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel, ac mae landlordiaid yn ymddangos yn amharod i gymryd tenantiaid sy’n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol.

“Rwy’n dyfynnu yma o erthyglau papur newydd, ac felly nid wyf yn gwybod pa mor sicr yw’r straeon hynny.

“Ond, wrth ymateb i chi dair wythnos yn ôl, cyfeiriais hefyd at achos y fam a’r ferch a ffodd yr ymladd yn Wcráin ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd wrth i’w noddwr Cymreig dynnu allan. Dydyn nhw methu fforddio rhent preifat, ac maen nhw’n ofni y gallan nhw fod ar y strydoedd.

“Sylwais ymhellach fod Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y byddai’n darparu 700 o gartrefi modiwlaidd i ffoaduriaid Wcráin eleni, gan gynnwys 200 yn lletya 800 o ffoaduriaid o Wcráin, a fydd yn cael eu hadeiladu erbyn y Pasg.

“O ystyried bod gan Gymru argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr opsiwn hwn ar ei phen ei hun neu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig?

“Ac os felly, beth mae’n ei wneud amdano ar hyn o bryd?”

Tynnodd Mark Isherwood sylw hefyd at gefnogaeth sy’n cael ei darparu yng Ngogledd Cymru i ffoaduriaid o Wcráin gan y Ganolfan Integreiddio Pwylaidd yn Wrecsam, elusen Link International a’r Groes Goch, a gofynnodd sut mae’r holl gyfraniadau ehangach hyn yn cael eu hintegreiddio i ymateb dyngarol Llywodraeth Cymru i’r Wcráin.

Cefnogaeth hirdymor

Wrth ymateb i’r ddadl yn y Senedd, dywedodd Jane Hutt bod pobol Cymru wedi bod yn “ddirwyo” yn eu cefnogaeth a bod bron i 7,000 o bobol o Wcráin wedi cael eu croesawu i Gymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydyn ni’n bobol dosturiol, sy’n cynnig cefnogaeth anhygoel,” meddai’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

“Fel cofiwch, dros flwyddyn yn ôl, fe wnaethon ni ymrwymo i gefnogi 1,000 o Wcrainiaid drwy eu huwch-noddi, ond nawr rydyn ni wedi croesawu dros 3,000 o Wcrainiaid i Gymru, ac mae gan 1,500 arall fisas rydyn ni wedi’u noddi.

“Dydyn nhw heb gyrraedd eto, ond dywedaf hyn heddiw, fyddan ni’n eu derbyn nhw â chroeso cynnes pan gyrhaeddan nhw.

“Bydd ein cynllun hirdymor i gefnogi Wcrainiaid yng Nghymru yn dilyn egwyddorion ein cynllun ‘Cenedl Noddfa’, ond byddwn yn dweud ein bod ni angen atebion i rai cwestiynau all Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig eu hateb.

“Mae hi’n bwysig ein bod ni’n rhoi pwysau ac yn cael eich cefnogaeth [y Ceidwadwyr] wrth ofyn i Weinidog y Deyrnas Unedig, Felicity Buchan, ddatblygu llwybr i Wcrainiaid sydd eisiau aros yn hirdymor, ac rydyn ni’n gwybod ein bod ni angen partneriaeth â Llywodraeth yr Alban hefyd.”