Mae cynlluniau ar y gweill i gael gwared ar barc natur ar Ynys Môn sydd wedi bod yno ers 50 mlynedd.

Y bwriad yw troi Parc Arfordirol Penrhos ger Caergybi yn barc gwyliau, a gobaith y datblygwyr, Land & Lakes a Bluestone, ydy adeiladu 500 o gabanau, ynghyd â siopau, sba a phwll nofio.

Mi fyddai hi’n costio £100m i greu’r pentref yma, a byddai 900 o swyddi yn dod i’r ardal, yn ôl y cwmni.

Rhoddwyd y parc i bobol Caergybi fel gwarchodfa natur yn 1968, ac i fwrw ati byddai’n rhaid i’r datblygwyr dorri 28 erw o goed hynafol.

Mae pobol leol yn gwirfoddoli eu hamser ers blynyddoedd i greu llwybrau ac afonydd, adeiladu waliau a gofalu am y bywyd gwyllt.

“Mae arnom ddyled i genedlaethau’r dyfodol i ganiatáu iddyn nhw yr un pleser â gawsom ni dros y 50 mlynedd diwethaf a mwy,” meddai’r ymgyrch ar eu tudalen Facebook.

“Ardal hardd”

Un sydd yn gwrthwynebu’r cynlluniau yw’r bardd Ness Owen, sydd o’r farn ei fod yn rhan bwysig o dreftadaeth a natur yr ardal.

“Mae Penrhos yn [golygu] gymaint o ran hanes i bawb ochr yma’r ynys,” meddai’r bardd, sy’n byw fymryn i’r de o Gaergybi, wrth golwg360.

“Rydym wedi bod yn cael tripiau ysgol, tripiau ysgol Sul, Brownies.

“Gwnaethom ni wersylla yn y ffarm ym Mhenrhos.

“Mae’n ardal hardd, mae yna goedwig, mae yna gymaint o fywyd gwyllt – wiwerod coch.”

Ynghyd â bod yn warchodfa natur, mae’r safle’n ofod cymunedol hefyd, meddai Ness Owen.

“Mae meddwl bod cwmni o’r tu allan yn mynd i ddifetha y lle yn ofnadwy, dydw i ddim yn gallu ei roi mewn geiriau.”

Cerdd am Benrhos

Mae Ness Owen, sy’n fardd adnabyddus ac yn sgrifennu’n Saesneg gan amlaf, wedi ennill gwobr arobryn am gerdd yn trafod y mater.

Enillodd y gerdd ‘And The Geese Turned Up’ yng nghystadleuaeth farddoniaeth ‘Poems for the Planet’ sefydliad Greenpeace yn ddiweddar.

Roedd y bardd yn ei weld fel cyfle i ddod â sylw at yr achos.

“Roeddwn i’n gweld sgrifennu’r gerdd fel cyfle i rannu stori Penrhos, roeddwn i wedi bod yn sgrifennu llyfr ar farddoniaeth eco beth bynnag,” eglura.

“Dw i wedi bod yn sgrifennu llawer ar Benrhos, ac fe wnes i ddarn i Radio 4 hefyd.

“Mae’n rhywbeth i wneud. Dydw i ddim yn gallu gwneud dim byd arall.

“Roeddwn yn meddwl os oedd siawns fach y byddwn yn gwneud y rhestr hir byddai’n gyfle i Greenpeace weld y stori.

“Dydyn ni ddim eisiau sefyll yn ôl a gwneud dim. Rydyn ni eisiau rhannu ein stori.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Bluestone am ymateb.

  • Cewch fwy o hanes Ness Owen y bardd yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg…

Gwobr Greenpeace i fardd o Fôn

Non Tudur

Cynefin a mamiaith – dyna sy’n ysbrydoli cerddi bardd o Gaergybi