Bydd Gwobrau Gwerin Cymru yn dychwelyd y gwanwyn yma er mwyn tynnu sylw at gyflawniadau cerddorol Cymru.

Mae gwahoddiad i’r cyhoedd anfon eu henwebiadau ar gyfer deg categori, sy’n amrywio o’r Grŵp Gorau i’r Act Newydd Gorau.

Cafodd Gwobrau Gwerin Cymru eu lansio yn 2019 fel partneriaeth rhwng Trac Cymru, elusen datblygu gwerin Cymru, Radio Cymru a Radio Wales, Cyngor Celfyddydau Cymru ac unigolion arwyddocaol o’r byd cerddoriaeth werin.

Mae cant o gynrychiolwyr gwyliau cerddorol, hyrwyddwyr, lleoliadau, cyfryngau a threfnwyr gwerin wedi cael eu gwahodd i fod ar y Panel Rhestr Hir i ddewis enwebiadau gan y cyhoedd i greu rhestr fer.

Bydd y rhestr fer hon yn mynd gerbron saith beirniad annibynnol sy’n cynrychioli’r byd cerddoriaeth werin, lle byddan nhw’n dewis yr enillwyr ym mhob categori.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y Noson Wobrwyo ddisglair yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Ebrill 20.

Ar y noson, fe fydd perfformiadau byw gan rai o’r enillwyr, gyda Radio Cymru a Radio Wales yn darlledu rhaglenni wedi’u recordio ar y noson.

Categorïau Gwobrau Gwerin Cymru

  1. Y Gân Gymraeg Traddodiadol Orau
  2. Y Gân Saesneg Gwreiddiol Orau
  3. Y Gân Gymraeg Gwreiddiol Orau
  4. Y Trac Offerynnol Gorau
  5. Yr Artist/Band Gorau sy’n dechrau dod i’r amlwg
  6. Yr Artist Unigol Gorau
  7. Yr Albwm Gorau
  8. Y Perfformiad Byw Gorau
  9. Y Grŵp Gorau
  10. Dewisiad y Werin

Bydd tocynnau ar gyfer y Noson Wobrwyo yn mynd ar werth yn fuan.