Mae’r wyth cân sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cân i Gymru wedi cael eu cyhoeddi, gyda nifer o wynebau cyfarwydd ymhlith y cyfansoddwyr a’r perfformwyr.
Mae Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn dychwelyd i gyflwyno’r gystadleuaeth, fydd yn cael ei darlledu’n fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar nos Wener, Mawrth 3.
Ar y panel o arbenigwyr sydd wedi dewis y caneuon mae’r gantores a chynhyrchydd Eädyth; y cerddor ac aelod o’r grŵp Pedair, Gwyneth Glyn; enillydd Cân i Gymru pedair gwaith a phrif leisydd ‘Y Moniars’, Arfon Wyn; a’r cyflwynydd radio a phrif leisydd Sŵnami, Ifan Davies.
Cynrychiolaeth o’r sîn yng Nhymru
“Fysa fo’n braf iawn clywed cân sy’n gafael yno chdi o’r cychwyn cyntaf a sydd ddim yn gadael i chdi fynd tan mai wedi gorffen,” meddai Gwyneth Glyn.
“A mae rhain yn bethau prin.
“Ond pan mae yna briodas gyfforddus, naturiol rhwng yr alaw a’r geiriau, mae cân yn gallu mynd â chdi i rywle.
“A fysa fo’n braf iawn clywed un o’r rheiny.
“Dyna ydi’r peth da am Cân i Gymru – dw i ddim cweit yn siŵr be’ i ddisgwyl!”
Mae Ifan Davies, sy’n beirniadu am y tro cyntaf eleni, yn dymuno gweld amrywiaeth sy’n cynrychioli’r sîn bresennol.
“Mae yna amrywiaeth pob blwyddyn ond dwi’n gobeithio eleni fydd yna gynrychiolaeth o beth sydd yn mynd ymlaen yn y sîn yng Nghymru ar hyn o bryd,” meddai.
Y rhestr fer
Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu am y wobr ariannol o £5,000 a thlws Cân i Gymru 2023 yw:
1. ‘Patagonia’ gan Alistair James (Dylan Morris yn perfformio)
Cafodd Alistair James ei fagu yn Llanfairfechan, ac mae o bellach yn byw yng Nghonwy.
Mae’n cyflwyno rhaglen frecwast ar Capital FM Cymru ac wedi bod yn perfformio’n gyson ers rhyddhau ei albwm cyntaf yn ôl yn 2005.
Dyma’r trydydd tro iddo ymddangos ar Cân i Gymru (2008 a 2020), ond y flwyddyn gyntaf iddo gymryd rhan fel cyfansoddwr yn unig.
Cafodd ei ysbrydoli ar ôl darllen am hanes Patagonia a rhestr o enwau pobol o’r gogledd yn mynd â’r Gymraeg i ben draw’r byd.
2. ‘Y Wennol’ gan Siôn a Liam Rickard, geiriau gan Siôn Rickard (Lo-fi Jones – Liam a Siôn Rickard – yn perfformio)
Mae Liam a Siôn Rickard yn frodyr o Fetws y Coed.
Bellach, mae Liam yn byw ym Machynlleth ac yn astudio yn y Ganolfan Dechnoleg a Siôn yn gweithio ar draws tair ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.
Mi gystadlodd Siôn ar Cân i Gymru y llynedd gyda’r gân ‘Rhiannon’. Mae’r ddau wedi cychwyn y band Lo-fi Jones ac yn credu mai’r gerddoriaeth maen nhw’n ei chreu gyda’i gilydd yw eu cyfansoddiadau cryfaf.
Mae’r ddau yn hoff o natur ac adar, ac yn cofio symlrwydd bywyd pan oedden nhw’n iau, a dyma yw’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r gân.
3. ‘Melys’ gan Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills a Tomos Mills (Eu band, The Night School, yn perfformio)
Mae Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills a Tomos Mills, neu The Night School, yn disgrifio’u hunain fel band roc dwyieithog, ac maen nhw’n adnabyddus am eu hymroddiad i hybu’r iaith Gymraeg yn eu cerddoriaeth.
Mae pob aelod o’r band yn dod o Abertawe ac yn dal i fyw yn y ddinas.
Mae gan bob un ohonyn nhw brofiadau o weithio fel athrawon a dyma’r rheswm tu ôl i enw’r band.
Dechreuodd y band yn 2016, ac er nad ydyn nhw wedi perfformio’n fyw o’r blaen, mi fydd eu halbwm cyntaf o’r enw ‘Dianc’ yn cael ei ryddhau yn 2023.
4. ‘Cân i Mam’ gan Huw Owen.
Mae Huw Owen yn byw yn Llanberis, ond roedd yn byw yng Nghaerdydd am sawl blwyddyn yn gweithio fel un o gyflwynwyr Cyw tan y llynedd.
Dyma’r tro cyntaf iddo gystadlu, er bod cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan fawr o’i fywyd.
Ysgrifennodd y gân yma am frwydr ei fam gyda chanser ac mae’n disgrifio’r gân fel sialens oherwydd ei fod o mor bersonol.
5. ‘Chdi Sy’n Mynd i Wneud Y Byd Yn Well’ gan Dafydd Dabson (Bryn Hughes Williams yn perfformio)
Daw Dafydd Dabson yn wreiddiol o Benllyn, ac erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd.
Mae o wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth ers iddo fod yn yr ysgol ac wedi bod mewn sawl band.
Ei brosiectau ar hyn o bryd yw Codewalkers yn Saesneg a Derw yn Gymraeg.
Mi wnaeth o gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2018 gyda’r gan ‘Dwi’m Yn Dy Nabod Di’.
Mae’r gân ‘Chdi Sy’n Mynd i Wneud Y Byd Yn Well’ yn gân obeithiol am y dyfodol ac am newid hinsawdd.
6. ‘Cysgu’ gan Alun Evans / ‘Alun Tan Lan’ (Tair aelod o’r band Tant yn perfformio – Angharad Elfyn, Elliw Jones a Siwan Iorwerth)
Mae Alun Evans, neu Alun Tan Lan, yn byw yn Llanddoged ger Llanrwst ac yn gweithio i Gyngor Sir Conwy yn dysgu gitâr i blant ysgol y sir.
Mae o wedi bod yn aelod o’r band Y Niwl ers 2009 a dyma’r pedwerydd tro iddo gystadlu yn Cân i Gymru – mi enillodd y gystadleuaeth yn 2010 a pherfformio yn 2013 a 2016.
Ysbrydoliaeth fwyaf y gân yw myfyrdod ac edrych yn ôl ar sut oedd pethau mewn bywyd wrth symud ymlaen.
7. ‘Eiliadau’ gan Ynyr Llwyd
Cafodd Ynyr Llwyd ei fagu ym Mhrion, pentref bach tu allan i Ddinbych, ac mae bellach yn byw ym Modelwyddan.
Mae’n gweithio fel Pennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon, ac yn dal i fwynhau cyfansoddi a pherfformio ei ganeuon ei hun.
Mae wedi cystadlu o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf iddo gyrraedd yr wyth olaf yn y gystadleuaeth.
Thema’r gân yw hiraethu am blentyndod a gorchfygu teimladau negyddol.
8. ‘Tangnefedd’ gan Sera Zyborska & Eve Goodman
Mae Sera Zyborska ac Eve Goodman yn dod o Gaernarfon yn wreiddiol.
Mae Sera bellach yn byw yn Llanfairpwll yn gweithio i’r gymuned leol ac yn rhedeg gweithdai cerdd i bobol ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Eve yn byw yn Y Felinheli ac yn gweithio’n llawn amser fel cyfansoddwr a pherfformiwr.
Cafodd y ddwy eu dewis i fod yn rhan o brosiect BBC Cymru, Gorwelion/Horizons, yn 2019 ac ers cyfarfod adeg hynny, maen nhw wedi bod yn ysgrifennu gyda’i gilydd.
Mae natur yn ysbrydoliaeth fawr i’r ddwy.