Mae undeb llafur Unite wedi cyhoeddi y bydd eu haelodau o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n streicio am ddau ddiwrnod arall fis nesaf.

Bydd gweithwyr yn cerdded allan ddydd Llun (Mawrth 6) a dydd Gwener (Mawrth 10) wrth i’r anghydfod ynglŷn â thâl barhau.

Daw hyn yn dilyn tridiau o streiciau’r wythnos hon sy’n dod i ben heddiw (dydd Mercher, Chwefror 22).

‘Angen i Lywodraeth Cymru wneud y peth iawn’

“Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud y peth iawn, dod at y bwrdd a datrys yr anghydfod yma ar frys,” meddai Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol Unite.

“Hyd nes y bydd hynny’n digwydd, bydd y streiciau’n parhau a bydd Unite yn parhau i gefnogi aelodau ambiwlans yng Nghymru.”

Ceisio ateb

“Mae angen i lywodraeth Cymru gydnabod cryfder y teimladau ymhlith ein haelodau,” meddai Richard Munn, Swyddog Rhanbarthol Cymru Unite.

“Maen nhw’n flin ac yn benderfynol o gael cytundeb sy’n atal erydiad cyflog pellach.

“Ar hyn o bryd mae’n anodd gweld diwedd i’r anghydfod yma, oni bai bod modd dod i gytundeb.”