Yn ddiweddar, fe wnaeth cwmni Barbie gyflwyno doli newydd sydd â Scoliosis, sef cyflwr sy’n golygu bod yr asgwrn cefn yn twistio neu’n troi i siâp ‘S’ neu ‘C’. Gall y symptomau gynnwys asgwrn cefn sydd i’w weld yn gam, un ysgwydd sy’n uwch na’r llall, un ysgwydd neu hip sy’n fwy amlwg na’r llall, asennau amlwg, a choesau hyd gwahanol. Mae gan Cadi Dafydd, uwch ohebydd golwg360, Scoliosis, ac yma mae hi’n trafod ei phrofiad hi gyda’r cyflwr ac yn cyfleu pwysigrwydd cynrychiolaeth.


Ychydig cyn troi’n 17 oed, ges i wybod yn ffurfiol bod gen i Scoliosis – cyflwr sy’n golygu bod fy asgwrn cefn mewn siâp ‘S’ yn hytrach nag yn syth. Er y byswn i wedi bod yn llawer rhy hen i chwarae efo’r Barbie newydd erbyn hynny, byddai gweld cynrychiolaeth wedi gwneud byd o les i fi fel hogan ifanc, braidd yn hunanfeirniadol, oedd yn sbïo yn y drych ers blynyddoedd yn methu dallt pam bod yna siâp gwahanol arna i. Ar ôl cam-ddiagnosis pan oeddwn i tua 14 oed, treuliais fy arddegau’n dweud wrth unrhyw un oedd yn cwestiynu pam bod ‘nghefn i’n edrych yn gam mai ‘jyst fel’na mae o’. Heb fwy o esboniad, a heb hyd yn oed glywed yr enw Scoliosis, dyma ryw hanner derbyn am sbel go hir mai fel hynny oedd pethau i fod.

Ac mae gofyn i rywun gymryd ‘hanner derbyn’ efo pinsiad o halen. Wnes i ddim tyfu ‘ngwallt yn hir at fy nghanol am bron i ddeng mlynedd achos ’mod i’n arbennig o hoff ohono fo felly, ond roeddwn i’n gweld ei fod o’n arf i guddio fy nghefn. Wnes i ddim gwisgo ryw gardigan ddigon plaen dros fy ffrog prom achos ’mod i’n meddwl ei bod hi’n ychwanegu at y wisg. Siŵr gen i, o edrych yn ôl, ’mod i’n teimlo’n ddigon ansicr yn fy nghorff, ac yn sicr doeddwn i ddim yn ei werthfawrogi fo. Doeddwn i ddim yn ei hoffi fo am gyfnod go lew, heb sôn am deimlo fel ei ddathlu fo. Ac mae gweld tegan plant yn dathlu’r cyflwr ac yn codi ymwybyddiaeth yn dipyn o beth, ac yn gam tuag at sicrhau bod plant a phobol ifanc eraill yn teimlo dipyn gwell am eu cyflwr.

Yn ddigon eironig, dw i wedi cyrraedd ryw ganol llonydd distaw pan mae hi’n dod at fy asgwrn cefn rŵan a finnau ar restr aros am lawdriniaeth i’w sythu. Mae aros cyn hired yn rhwystredig, ac mi fysa hi’n braf cael ei sortio fo. Mae o’n curve “difrifol”, a dw i’n fythol ddiolchgar nad ydw i’n cael dim poenau o gwbl efo fo, ond gall pethau newid gydag amser. Ac er ’mod i ofn llawdriniaethau am fy mywyd, dw i’n ystyried y driniaeth fel ryw fuddsoddiad at fi’r dyfodol yn fwy na dim erbyn hyn.

Roedd yna adeg pan mai’r ffordd oedd ‘nghefn i’n edrych oedd y brif ystyriaeth. Ond, newidiodd hynny’n raddol dros y tair blynedd ddiwethaf. O bosib, gan i mi fynd yn hŷn a deall mai’n hedrychiad ni ydy’r peth lleiaf difyr amdanom ni. Dechreuais redeg tua dechrau’r pandemig hefyd, a sylwi bod ‘nghorff i’n anhygoel am ganiatáu i mi wneud yr holl bethau dw i eisiau eu gwneud. Mae o’n anhygoel pan dw i’n llwyddo i redeg yn bellach nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl, yndi, ond mae o’n anhygoel hefyd yn y pethau bach dydd i ddydd. A chyda’r sylweddoliad hwnnw stopiais ddyheu am ei newid.

Roedd hi’n braf clywed Alwen Eifion a’i mam, Siân, o Forfa Nefyn yn siarad mor agored am brofiad Alwen gyda Scoliosis ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru heddiw, a chlywed agwedd iach ofnadwy y ddwy am y cyflwr a’r driniaeth. All y sylw mae’r Barbie Scoliosis wedi’i dynnu at y cyflwr ond bod yn beth da. Mae gofod wedi cael ei greu gan y cwmni i godi ymwybyddiaeth, dechrau sgwrs agored, a helpu pobol ifanc i ddathlu eu cyflwr, neu ei dderbyn pan fo dathlu’n teimlo’n anodd.