Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi croesawu’r newyddion y bydd safleoedd yr Ambiwlans Awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn ddiogel tan 2026.
Roedd sawl un wedi bod yn ymgyrchu i achub y ddau safle, gan ddadlau y byddai eu symud yn amddifadu cymunedau gwledig yn y gogledd-orllewin a’r canolbarth.
Fe wnaeth Ambiwlans Awyr Cymru’r cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher, Chwefror 22) wrth gyhoeddi cytundeb hedfan newydd i Gama Aviation, a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2024.
Yn sgil hynny, maen nhw wedi penderfynu peidio â gwneud unrhyw newidiadau am o leiaf deunaw mis wedi i’r contract ddod i rym.
Gwerth herio’r cynlluniau
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn dadlau o blaid achub safleoedd Dinas Dinlle ger Caernarfon a’r Trallwng.
“Yn amlwg dw i’n croesawu’r newyddion a’r datblygiad yma, rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu ers rai misoedd bellach gan amlygu’r diffygion oedd yn y bwriad ganddyn nhw,” meddai Elwyn Vaughan, arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys, wrth golwg360.
“Felly mae’r ffaith bod ein dadleuon ni wedi cael eu derbyn a bod sicrwydd am rai blynyddoedd pellach i’w groesawu.
“Rydyn ni’n gobeithio bydd o’n para tu hwnt i 2026, ond o leiaf mae rhai blynyddoedd o sicrwydd yn help mawr ac yn tawelu ofnau a phryderon didwyll pobol yn y canolbarth.
“Beth sy’n hurt, pan ddaeth y data allan yn wreiddiol doedd o ddim yn dal dŵr, doedd eu cynnig nhw ddim yn gwneud synnwyr ac felly mae e wedi talu ein bod ni wedi herio hynny a scriwtineiddio’r peth.”
‘Yr ymgyrch ddim drosodd’
Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod hi wrth ei bodd yn clywed bod y cytundebau ar gyfer y ddau faes awyr wedi cael eu hymestyn i 2026.
“Fel mae sawl un wedi dweud yn barod, dydy’r ymgyrch ddim drosodd a nawr hoffwn roi teyrnged i bawb sydd wedi ymgyrchu i amddiffyn y gwasanaeth hanfodol hwn hyd yn hyn,” meddai.
“Mae diolch arbennig i Dai Williams sydd wedi bod â rôl allweddol yn yr ymgyrch, a dw i ar ddeall ei fod wedi gwneud y penderfyniad i gymryd cam yn ôl.”
Fe wnaeth Dai Williams sefydlu tudalen Facebook yn galw am achub y maes awyr yn y Trallwng, a chyhoeddodd heddiw ei fod am roi’r gorau i fod yn weinydd ar y dudalen.
“Byddaf i, fel sawl un arall, yn aros am fanylion y broses ymgysylltu cymunedol hirddisgwyliedig sydd i fod i ddechrau’r mis nesaf,” meddai Jane Dodds wedyn.
‘Gwarchod ein gwasanaethau’
“Ein nod yw gwarchod ein gwasanaethau i bobol Cymru wrth chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella ein gwasanaeth a’n hargaeledd,” meddai Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru.
“Mae gwelliannau arfaethedig yn destun ymgysylltiad â’r cyhoedd sy’n cael ei arwain gan Brif Gomisiynydd yr Ambiwlans Awyr, a byddan yn cyfrannu ato drwy gyfraniad annibynnol.
“Fodd bynnag, mae amser yn mynd heibio, a chyda Gama Aviation yn cymryd drosodd ar Ionawr 1, 2024 mae’n rhaid gwneud penderfyniadau pragmataidd.
“O ystyried yr angen i sicrhau parhad y gwasanaeth a bod yn ystyriol o’r angen i roi sicrwydd i berchnogion ein meysydd awyr, byddwn ni’n parhau â’r cytundeb hedfan newydd gyda’n model pedwar safle presennol.”