Mae dyn o Borthmadog gafodd ei achub yn dilyn damwain yn gwrthwynebu adleoli gwasanaethau’r Ambiwlans Awyr yn y gogledd, gan ddweud ei fod yn “gobeithio y daw canlyniad call” i’r ymgyrch.
Dymuniad Cian Wyn Williams yw i’r safle yn Ninas Dinlle gael ei gynnal fel ag y mae.
Cafodd ddamwain yn 2012, pan aeth ei goes yn sownd mewn cwch ym Morth-y-Gest ac fe ddaeth yr ambiwlans awyr o Ddinas Dinlle i’w achub.
“Wnaethon nhw gyrraedd ryw bump i ddeg munud ar ôl y ddamwain,” meddai wrth golwg360, gan ychwanegu iddi gymryd saith munud i’w gludo i Ysbyty Gwynedd.
“Y peth rwy’n meddwl sydd yn bwysig i bobol wybod yw, mae llawer o bobol yn nabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio neu ei achub gan yr Ambiwlans Awyr.
“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig bo ni ddim yn colli rhywbeth mor bwysig i ni.
“Mae o’n hynod o bwysig ei fod yn aros yng Nghaernarfon, mae’n hynod o bwysig fod pobol yn teimlo ei fod yna i achub nhw.
“Rwy’n gobeithio y daw canlyniad call allan o’r pethau na fyddan ni’n gorfod cau hi lawr.”
Damwain Cian Wyn Williams
Stori bersonol sydd gan Cian Wyn Williams, sydd yn golygu ei fod yn teimlo’n danbaid dros achub safleoedd yr Ambiwlans Awyr.
“Cefais ddamwain efo propelor cwch yn 2012,” meddai.
“Gwnaeth y cwch rifyrsio pan on i’n nofio, a ges i fy nghoes yn sownd.
“Gwnaethon nhw dynnu fi allan o’r dŵr.
“Roedd hyn yn Borth-y-Gest, drws nesaf i Borthmadog.
“Wnaeth y cwch fynd â fi’n ôl at yr harbwr, lle wnaeth yr Ambiwlans Awyr gael ei ffonio.
“Wnaethon nhw gyrraedd ryw bump i ddeg munud ar ôl y ddamwain, daeth yr awyren o Ddinas Dinlle.
“Gwnaeth yr Ambiwlans Awyr bigo fi fyny o fan hyn.
“Roeddwn wedi colli llawer o waed, felly roedd o’n bwysig eu bod nhw’n gallu mynd â fi yna mor sydyn.
Gwnaeth gymryd ychydig ar ôl y ddamwain i wella, meddai.
“Cymerodd dair neu bedair mlynedd i allu cerdded yn iawn.
“Dwi wedi dod allan ohoni reit dda rŵan.”
Mewn undeb mae nerth
Mae rhai yn mynd ati i hel arian i’r Ambiwlans Awyr, gan ddweud na fyddan nhw’n parhau i wneud hyn pe bai’r safle’n cael ei adleoli.
Mae straeon fel un Cian Wyn Williams yn rhan fawr o’r rheswm pam fod pobol yn teimlo mor angerddol o blaid cadw safleoedd yr Ambiwlans Awyr.
“Rwyf wedi bod yn mynd i gyfarfodydd,” meddai wedyn.
“Mae llawer wedi dechrau cyn fi.
“Rydym yn ceisio dangos pam ei fod yn bwysig i bobol wybod.
“Mae yna straeon fel un fi a rhai tebyg.
“Mae’n bwysig bod pobol yn cael clywed a gweld pa effaith mae’r ambiwlans awyr wedi cael ar fywydau pobol.
“Mae llawer o bobol yn hel arian.
“Mae yna elusennau lleol oherwydd bod nhw’n teimlo mai hwnna yw eu hambiwlans awyr nhw.
“Rwyf wedi gweld llawer o bobol yn rhoi pethau negyddol ar Facebook – os yw’r Ambiwlans Awyr yn symud o Gaernarfon i Ruddlan, dydyn nhw ddim am fod yn hel arian dim mwy.
“Maen nhw’n teimlo mor bersonol amdano fo.
“Dyna rwyf wedi bod yn gwneud mwy na dim byd, codi’r peth a gwneud yn siŵr bod pawb yn gweld pam fod o’n bwysig a be’ fysa’n gallu digwydd os na fyddai yna.”
Canolog
Mae Cian Wyn Williams yn credu, fel nifer, ei bod yn bwysig cadw safle Ambiwlans Awyr yn lleol i gludo pobol i’r ysbyty yn sydyn.
“Mae o yn y canolbarth, mae o mewn lle da o ran gallu mynd i Wynedd, Môn a Llŷn,” meddai.
“Pan mae o’n dod i rywle fel Penllyn, maen nhw ychydig allan ohoni.
“Mae Sir Fôn hefyd yn bell o ysbytai.
“Mae llawer o ffermwyr allan ym Mhenllyn ac maen nhw’n cael damweiniau ac mae’r ambiwlans [ar y ffordd] am gymryd oriau i fynd â nhw i Ysbyty Gwynedd.
“Mae helicopter wedi cael ei greu i gyrraedd llefydd sydd yn bell o ysbytai, yn sydyn.
“Dyna pam ei fod yn bwysig bod nhw yma, i gadw pobol fel yna yn saff.
“Rŵan maen nhw eisiau mynd â’r safle i Ruddlan, mae o reit bell allan ohoni.
“O ran Pen Llŷn mae o’n bell.
“Os maen nhw eisiau dod i’r ochrau yma, fel Porthmadog neu Benllyn neu beth bynnag mae nhw’n mynd i orfod mynd dros y mynyddoedd i ddod yma.
“Os bydd y tywydd yn arw, maen nhw’n mynd i stryglo yn ofnadwy i ddod dros y mynyddoedd.
“Weithiau, fyddan nhw ddim yn gallu o gwbl.
“Mae hynny’n mynd i gymryd amser hanfodol.
“Mae ganddyn nhw’r golden hour rŵan, ble medran nhw gael rhywun i’r ysbyty mewn awr efo’r helicopter.
“Hwyrach oherwydd lle mae hi’n cael ei symud i rŵan, byddan nhw’n colli amser.
“Peidio colli amser yw rheswm yr ambiwlans awyr.”