Gyda chynigion i gau safleoedd yr Ambiwlans Awyr yng Nghaernarfon a’r Trallwng a chanoli’r gwasanaeth, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Powys sy’n ystyried effaith bosib yr adleoli ar y canolbarth a’r gogledd orllewin. Mae sawl cyfarfod cyhoeddus eisoes wedi cael eu cynnal er mwyn gwrthwynebu’r cynlluniau arfaethedig. 


Os ydych chi’n cael trafferth cysgu’r nos, yna trïwch ddarllen dogfen y cynnig gwreiddiol ar gyfer cau safleoedd Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon a’r Trallwng, a’u symud i Ruddlan. Fyddwch chi’n cysgu mewn dim.

Mae llawer o sôn wedi bod ynglŷn â’r ffaith y bydd 583 o ddigwyddiadau’n elwa’n sgil yr adleoli. Fodd bynnag, mae’r ddogfen yn nodi mai’r ffigur fydd 577 “ar y mwyaf”. Serch hynny, mae cymaint â hanner y rhain yn cyfeirio at newidiadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud yn y de ddwyrain. Felly, mae’r rhif yn dod lawr i tua 288. O ystyried eu bod nhw’n derbyn y bydd 40% o’r digwyddiadau y mae ambiwlansys awyr yn eu cyrraedd yn amherthnasol, mae’n dod â’r cyfanswm lawr i 136. Ynghyd â hynny, mae’r data sy’n cael ei ddefnyddio’n dangos y bydd 100 digwyddiad yn cael eu methu yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn sgil symud y safleoedd, felly mae’r cyfanswm yn gostwng i 36. Ia 36, ac fel mae Optima, y cwmni wnaeth y dadansoddiad, yn ei ddweud sawl tro, dyma’r cyfanswm “ar y gorau” ac mae hwn yn braf o fewn ffin cyfeiliornad (margin of error).

Un peth arall amlwg ydy’r diffyg ystyriaeth o effaith y tywydd. Rhywbeth y byddai rhywun yn meddwl fyddai’n ystyriaeth hanfodol o ystyried bod gennych chi’r Berwyn ac Eryri i’w croesi i gyrraedd canolbarth Cymru.

Os nad yw hynny’n ddigon, canlyniad amlwg symud y safleoedd fyddai ddiffyg cyflymder y Cerbydau Ymateb Cyflym wrth gyrraedd rhannau mawr o Wynedd a chanolbarth Cymru. Os ydy’r hofrennydd yn methu hedfan yn sgil y tywydd, yna bydd y Cerbydau Ymateb Cyflym yn amherthnasol i ni hefyd.

Mae Optima’n adrodd mai ardaloedd Byrddau Iechyd Powys a Hywel Dda fydd yn dioddef fwyaf ar adegau pan fo’r hofrennydd yn methu helpu. Mae mapio gan y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) o ymatebion ar y ffordd yn ychwanegu gogledd orllewin Cymru ac Ynys Môn at y rhestr. Maen nhw hyd yn oed yn cyfeirio at ‘angen newydd heb ei ateb’ – sef pobol a oedd yn arfer elwa gan y gwasanaeth, ond fyddai dan anfantais yn sgil newidiadau yn yr ardaloedd hynny.

Felly, ym Mhlaid Cymru rydyn ni eisiau awgrymu gwrthgynnig – bod safleoedd Caernarfon a’r Trallwng yn cael eu trin fel un uned weithiol, eu cadw, ac yn gweithredu split shifts, fel sydd wedi cael ei gynnig ar gyfer safle Rhuddlan. Byddai hynny’n golygu bod ambiwlansys awyr ar gael ddydd a nos. Er mwyn helpu i gwrdd â’r galw yn y gogledd ddwyrain, dylid lleoli Cerbyd Ymateb Cyflym ychwanegol yn ardal Wrecsam. Gallai’r cynnig hwn gyrraedd 600 digwyddiad ychwanegol y flwyddyn – 300 gyda’r Cerbyd Ymateb Cyflym newydd; peidio colli 100 digwyddiad drwy beidio ag adleoli i Ruddlan; a 200 digwyddiad ychwanegol gyda’r oriau ychwanegol fyddai’r ambiwlansys ar gael drwy’r split shifts.

Byddai hyn yn achub bywydau, ynghyd ag amddiffyn ein cymunedau amaethyddol a rhoi gwasanaeth gwell ledled canolbarth a gogledd Cymru. Rhywbeth i feddwl amdano.