Mae Plaid Cymru’n cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o geisio “penawdau sgleiniog”, wrth iddyn nhw alw am asesiad o effaith cytundebau masnach ar economi Cymru.
Bydd y blaid yn galw heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 12) am welliant i’r Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) ar drothwy dadl ar y mater yn San Steffan.
Yn ôl Hywel Williams, llefarydd masnach ryngwladol y blaid, “yn hytrach na chau’r tyllau maint Brexit mewn masnach, gallai’r cytundebau masnach bychain hyn gael effaith negyddol ar sectorau allweddol Cymru megis amaeth”.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dydy’r cytundebau masnach ag Awstralia na Seland Newydd ddim yn cynnig unrhyw gyfleoedd sylweddol i gynhyrchwyr amaeth Cymru, ac mae cynyddu mynediad i gynhyrchwyr o’r ddwy wlad i’r farchnad yn achosi nifer o bryderon.
Dywed NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru y bydd yr effaith negyddol ar amaeth yn waeth yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig gan fod y wlad mor ddibynnol ar gig eidion a chig oen.
Y gwelliant
Mae gwelliant Plaid Cymru’n galw am asesiad o effaith cytundebau masnach rydd Awstralia a Seland Newydd ar sectorau economaidd Cymru.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod rhoi pwerau craffu i San Steffan tros y cytundebau masnach yn eu cyfanrwydd, ond byddai’n rhaid cael deddfwriaeth newydd ar gyfer adrannau caffael y cytundebau masnach.
Bydd y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) yn hwyluso cyflwyno penodau caffael y cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd.
Yn ôl Hywel Williams, dylai “rhuthro” i gwblhau’r cytundebau masnach hyn fod “yn wers i Lywodraeth y Deyrnas Unedig”, ac maen nhw’n galw am lais i Lywodraeth Cymru ar y mater “os ydyn ni am gael cytundebau masnach sy’n datblygu – ac nid yn tanseilio – ein heconomïau lleol”.
“Mae cytundebau masnach Awstralia a Seland Newydd yn ganlyniad ras wyllt am benawdau sgleiniog heb feddwl am yr effaith ar Gymru nac economi ehangach y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Yn hytrach na chau’r tyllau maint Brexit mewn masnach, gallai’r cytundebau masnach bychain hyn gael effaith negyddol ar sectorau allweddol Cymru megis amaeth mewn gwirionedd.
“Wrth wrthod rhoi pwerau craffu go iawn tros bolisi masnach ôl-Brexit i Aelodau Seneddol a’r deddfwrfeydd datganoledig, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gadael Cymru’n agored i’r Cytundebau Masnach Rydd niweidiol hyn.
“Fis diwethaf, ddaru cyn-Weinidog yr Amgylchedd George Eustice ein hatgoffa pa mor bwysig yw craffu gwirioneddol pan ddaru o feirniadu Cytundeb Masnach Rydd Awstralia am ildio gormod.
“Mae tystiolaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru’n dangos bod cytundeb masnach y Deyrnas Unedig â Seland Newydd 40 gwaith yn waeth i ffermwyr Cymru na’r cytundeb rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Seland Newydd.
“Mae San Steffan wedi methu’n llwyr â brwydro dros fuddiannau economi Cymru.
“Dylai’r cytundebau masnach hyn sydd wedi cael eu rhuthro fod yn wers i Lywodraeth y Deyrnas Unedig; rhaid rhoi llais i Lywodraeth Cymru os ydyn ni am gael cytundebau masnach sy’n datblygu – ac nid yn tanseilio – ein heconomïau lleol.”