Mae Mabon ap Gwynfor yn galw ar gwmnïau ynni sy’n cyflenwi ei etholwyr i fynd i’r afael ar fyrder â methiannau difrifol yn y ffordd maen nhw’n ymdrin â chwsmeriaid sy’n wynebu anawsterau wrth dalu biliau y gaeaf hwn.

Wrth godi’r mater yn y Senedd, soniodd Aelod Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd am adolygiad diweddar gan y rheoleiddiwr ynni Ofgem, a nododd fod gan Scottish Power, un o brif ddarparwyr ynni i gartrefi yng ngogledd Cymru, wendidau difrifol yn y ffordd maen nhw’n cefnogi cwmseriaid sy’n wynebu anawsterau talu.

Nododd Adolygiad Cydymffurfiaeth y Farchnad (Ofgem) ar sut mae darparwyr ynni yn cefnogi aelwydydd sy’n cael trafferth gyda biliau ynni mai TruEnergy, Utilita a Scottish Power oedd y cwmniau gwaethaf, gyda Scottish Power ac Utilita yn cael gorchmynion gorfodi brys.

Ymhlith y canfyddiadau roedd diffyg polisiau i ymdrin â chwsmeriaid mewn anawsterau talu, diffyg goruchwyliaeth gan reolwyr o ran ansawdd eu hymgysylltiad â chwsmeriaid a diffyg deunyddiau hyfforddi digonol.

Mae Mabon ap Gwynfor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwmnïau ynni hynod broffidiol hyn sy’n cyflenwi cartrefi Cymru yn cael eu dwyn i gyfrif am eu methiannau, ac am ymdrechion o’r newydd i helpu etholwyr mewn tlodi tanwydd.

‘Gaeaf caled bellach yn dechrau brathu’

“Gyda gaeaf caled bellach yn dechrau brathu, mae’n rhaid i gwmnïau ynni flaenoriaethu anghenion cwsmeriaid bregus sy’n cael trafferth talu eu biliau,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Rhaid cyfaddef fy mod yn flin iawn pan ddarllenais ymchwil Swyddfa’r Marchnadoedd Nwy a Thrydan a ganfu fod tri chyflenwr ynni – TruEnergy, Utilita a Scottish Power – â gwendidau difrifol wrth ddelio â chwsmeriaid ag anawsterau talu, gydag Utilita a Scottish Power yn cael hysbysiadau gorfodi.

“Mae Scottish Power yn un o’r darparwyr ynni hirsefydlog i’m hetholwyr yn Nwyfor Meirionnydd, ac, yn wir, ar draws y rhan fwyaf o ogledd Cymru.

“Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod darparwyr ynni yn sicrhau bod eu cwsmeriaid, yn enwedig y rhai mwyaf bregus, yn cael yr help sydd ei angen arnynt gan y cwmnïau hynod broffidiol yma i dalu eu biliau?

“O ystyried y pwysau sylweddol sy’n wynebu aelwydydd Cymru y gaeaf yma, yn enwedig y rhai mwyaf bregus a’r rhai ar incwm isel, dylai cwmnïau ynni fod yn mynd ati’n rhagweithiol i adnabod a chefnogi cwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu.

“Yr hyn y mae’r adroddiad yma yn ei ddangos yw bod y cyflenwyr ynni hynod broffidiol hyn yn methu yn eu dyletswydd gofal i’w cwsmeriaid mwyaf bregus.

“Yn lle blaenoriaethu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau, mae’r cwmniau ynni mawr hyn yn elwa ar gefnau’r tlotaf tra ar yr un pryd yn darparu cyn lleied o gymorth a chyngor â phosibl i’r rhai sydd ag angen dybryd am help gyda’u biliau.

“Mae Scottish Power yn un o brif gyflenwyr ynni yn fy etholaeth yn Nwyfor Meirionnydd, ac yn wir ar draws gogledd Cymru. Rwy’n flin iawn eu bod wedi methu â chyrraedd y safonau a ddisgwylir ganddynt, a gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn eu hatgoffa o’u hymrwymiad i’w cwsmeriaid.

“Mae pobol yn fy etholaeth yn mynnu sicrwydd gan eu cyflenwr ynni os ydynt yn cael trafferth talu eu biliau, y bydd eu cyflenwr yn cymryd pob cam rhesymol i’w cefnogi, gan gynnwys cynnig amrywiaeth o wasanaethau i hwyluso taliadau drwy ddulliau amgen.’

“Rwyf hefyd yn cefnogi galwadau gan National Energy Action (NEA) sy’n annog Ofcom i gynnal adolygiadau rheolaidd o berfformiad cwmnïau ynni ac os yw cwsmeriaid bregus yn derbyn y gwasanaeth y mae ganddynt hawl iddo.”

‘Dewis rhwng gwresogi neu fwyta’

“Mae’r argyfwng costau byw yn gorfodi pobol i dorri’n ôl ar hanfodion, gyda llawer yn gorfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Dylai pobol sy’n cael trafferth gyda’u biliau gael eu cefnogi, nid eu gadael i frwydro ymlaen a’u gorfodi mewn i dlodi tanwydd.

“Dylid sylweddoli hefyd, yn y lle cyntaf, pan fydd cwsmeriaid yn ffonio eu cyflenwr ynni am gyngor a chymorth eu bod yn aml yn aros sawl munud ac yn amlach na pheidio, yn llawer hirach i gysylltu â rhywun ar y pen arall.

“Rwy’n gwybod am un etholwr yr oedd ei gredyd symudol wedi rhedeg allan cyn iddo allu siarad â rhywun am anghysondeb difrifol gyda’i fil trydan.

“Mae’r amseroedd aros galwadau hynod o hir hyn yn costio arian i bobol na allant ei fforddio.’

“O ystyried effaith ddinistriol yr argyfwng costau byw ar incwm aelwydydd, gyda’r tlotaf a’r mwyaf bregus yn wynebu’r pwysau mwyaf – dylai’r cwmniau ynni hynod broffidiol hyn gael eu gorfodi i wneud eu llinellau ffôn yn rhad ac am ddim – dyna’r peth lleiaf posibl y gallant ei wneud.”