Soniais yn ddiweddar am sgwrs frawychus glywais rhwng dwy fam yn difaru addysg cyfrwng Gymraeg eu plant. Roeddent yn teimlo bod y bwlch iaith rhwng yr ysgol ac addysg bellach wedi achosi trafferthion. Rhannais hefyd brofiadau personol o sut roedd y bwlch iaith wedi cymhlethu fy mhroblemau SEN.
Bu’r erthygl yn sbardun ar Facebook i drafodaethau meddylgar a difyr. Hoffwn ategu fy mod dal yn angerddol ynglŷn ag addysg Gymraeg, ond dwi hefyd dal i gredu fod angen i ni gynnwys y naratifau negyddol hyn yn y sgwrs.
Bwlch yr iaith a rhesymau eraill am fethiant…
Un mater gododd ar Facebook oedd fod naratifau negyddol fel hyn yn medru bod yn ddi-sail, gan fod plant yn cael trafferthion am resymau eraill. Mae hyn yn ddigon teg, e.e. heb ddiagnosis cyn mynd i’r coleg, fysa AAA yn esboniad ar ei ben ei hun am fy methiant i.
Fodd bynnag, tydi bwlch iaith byth yn mynd i helpu’r sawl sy’n methu chwaith, nac ydi? Os yw person ifanc yn cael trafferth, am amrywiaeth o resymau cymhleth sydd yn bersonol iddyn nhw, mae cael bwlch iaith ar ben hyn yn mynd i fod yn her yn hytrach nag yn gymorth, neu hyd yn oed yn ffactor niwtral.
Yn fy marn i, dylid fod yna ddim bwlch iaith yma o gwbl, yn enwedig yn ardaloedd y gororau megis Wrecsam. Mewn pynciau craidd megis mathemateg, credaf fod yna ddadl gadarn am ‘drawsieithu’ wrth ei addysgu – sicrhau bod geirfa ddwyieithog gan y plant, fel bod ganddyn nhw’r gallu i gyfathrebu hefo pobol tu hwnt i’r system addysg Gymraeg.
Y stori tu ôl i’r ystadegau
Wrth i’r trafodaethau difyr hyn gael eu cynnal ar Facebook, daeth bombshell y Cyfrifiad. Dwi newydd bori’r we am dros i awr yn chwilio am yr ystadegau manwl gywir ar gyfer Wrecsam, ac mae fy AAA yn dangos eu hunain gan i mi ffaelu gwneud hynny, hyd yn oed!
Ond yn ôl yr adroddiad ffeindiais i, sy’n rhoi’r ganran o 64.4% siaradwyr Cymraeg i Wynedd, mae’r map yn dangos bod y ganran yn Wrecsam rywle rhwng 10% a 25%. Brawychus o isel, ynde, ond yn adlewyrchiad o sefyllfa fregus yr iaith yn y fro, dwi’n meddwl.
Mae pocedi o Gymraeg yn Wrecsam, gyda digwyddiadau cyfrwng Cymraeg yn denu niferoedd da, oddeutu 50 o bobol. Ond poblogaeth y ddinas-sir yw rhyw 136,055, a stori wahanol iawn yw hi yn gyffredinol.
Dwi’n mynychu digwyddiadau ar hyd a lled Wrecsam, megis nosweithiau ‘open mic’. Prin iawn yw’r Gymraeg dwi’n ei chlywed, a fi yw’r unig un sy’n perfformio yn y Gymraeg yn ‘Jam night’ Saith Seren a ‘Voicebox’ Tŷ Pawb.
Mae ewyllys da yma, a photensial hefyd, gyda rhai yn dangos diddordeb yn fy mherfformiadau a fy mhrosiect ‘cyfieithu lyrics’, ond mae yna lot o waith i’w wneud.
Cip o’r ymylon…
Felly sut mae esbonio’r naratifau negyddol, tybed? Wel, â synfyfyrio ar hynny, beth am i ni ddychwelyd i’r bonc tu fa’s i’r Stiwt?
Ar ôl rhyw bum munud o ddweud eu bod nhw’n difaru anfon y plant i ysgolion cyfrwng Gymraeg, wnaeth un o’r mamau ddweud “Well she’s got it now, anyway, hasn’t she, Welsh…”. Ac i mi, roedd hyn yn cynnig mewnwelediad a gobaith.
Roedden ni gyd wedi dŵad yma ar ddiwrnod braf, i wylio halibalŵ y ‘Steddfod. Tybiaf eu bod nhw yn yr un sefyllfa â fi – â diddordeb ac awydd cymryd rhan, ond ddim cweit yn siŵr beth oedd yn mynd ymlaen nac yn teimlo ein bod ni’n perthyn.
Tu fewn i’r Stiwt, mewn sgwrs ôl-Steddfod, bu sôn am fuddion cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd (1af, 2ail, 3ydd), megis cael mynd ar gyrsiau yn Nhŷ Newydd. Ond daeth cwestiwn o gornel y stafell: beth yw Tŷ Newydd? A gyda hynny, mewnwelediad i’r ennui.
Does ’run Bardd Plant Cymru erioed wedi dod o Wrecsam, na Bardd Cenedlaethol Cymru ychwaith. Fyswn i’n synnu os oes r’un Prifardd, o’r ‘Steddfod Genedlaethol neu’r Urdd, wedi bod erioed; taeraf taw’r un stori yw hi hefo Tlws yr Ysgol (Barddas).
Taeraf taw Tegeingl yw’r unig dîm Talwrn rhwng siroedd Wrecsam a Fflint (300,000 o bobol), doedd yna’r un tîm o Wrecsam yn Nhalwrn yr Ifanc, ac ni chynigwyd platfform i’r un ohonom yn Nhalwrn arbennig ‘Y Wâl Goch’ yn y Saith Seren yn ddiweddar.
Yn groes i hyn, fues i yn Fardd y Mis yn Ionawr 2021; denodd hyn gryn sylw yn Wrecsam. Dwi hefyd yn golofnydd i gylchgrawn Barddas, a braf yw gweld ymateb plant a phobol leol pan dwi’n dangos fy ngholofn iddyn nhw.
Heb I.D.Hooson ac Aled Lewis Evans fel modelau rôl, mae’n annhebygol fyswn wedi mynd ati i geisio barddoni. Mae cynrychiolaeth yn bwysig. Mae gweld buddion addysg Gymraeg yn bwysig. Mae angen i ni argyhoeddi rheini sydd wedi eu dadrithio i weld y buddion trwy gynrychiolaeth leol mewn digwyddiadau a rolau Cymraeg…