Mae’r argyfwng costau byw yn waeth i bobol sy’n byw yng nghefn gwlad, yn ôl Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Economi Cyngor Gwynedd.

Ac mae Nia Jeffreys am bwysleisio bod help ar gael i drigolion y sir, ac y medran nhw fynd ar wefan y cyngor am help, a hynny am ddim ar gyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd.

Ond mae hi’n bryderus am bobol, yn enwedig rhai mewn ardaloedd fwy anghysbell.

“Os wyt ti mewn lle mwy gwledig a does dim banc bwyd, ti’n gorfod mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus,” meddai Nia Jeffreys.

“Mae byw yn y wlad efo heriau ei hun o wynebu costau byw a thlodi.

“Mae rhai o’r pethau rydym yn poeni am efallai yn wahanol mewn dinasoedd.

“Rwyf yn gweld hyn bob dydd yn fy ward i ym Mhorthmadog ac ar draws y sir.

“Dydy pawb ddim efo’r We, yn enwedig mewn llefydd gwledig ond rydym ni hefyd yn gwneud ein [menter] llyfrgelloedd Croeso Cynnes.

“Rydym yn cynhesu’r llyfrgelloedd ac mae wifi hotspot yna.

“Bysan nhw’n gallu mynd ar y tudalen [gymorth] ar wefan Cyngor Gwynedd.”

Os ydych yn cael trafferth talu trethi cyngor, biliau gwahanol mae help ar gael. Os ydych yn poeni am ddigartrefedd gwaith neu iechyd mae gwybodaeth bellach. Os ydych yn cael trafferth mewn unrhyw ffordd mae gwybodaeth ar sefydliadau eraill sydd yn gallu eich helpu. Mae hefyd manylion hybiau cymunedol am wybodaeth ar arian, bwyd ac ynni.

Gellid darllen mwy am y grantiau, taliadau a chymorth ariannol isod sydd gan y cyngor ar y tudalen i’ch helpu:

Gostyngiad bil Treth Cyngor,

Eithriadau bil Treth Cyngor,

Budd-dal Tai,

Credyd cynhwysol.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Gwynedd.