Mae rhai o benaethiaid Cyngor Môn wedi ymateb i’r ffaith fod nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr ynys wedi gostwng yn y ddeng mlynedd ddiwethaf.
Fe syrthiodd y nifer sy’n dweud eu bod nhw yn gallu siarad yr iaith ar yr ynys o 57.2% yn 2011 I 55.8% yn 2021, yn ôl data’r Cyfrifiad.
Drwyddi draw yng Nghymru roedd y ganran yn 2011 yn 19.0% – erbyn 2021 roedd hynny wedi gostwng i 17.8%, sef gostyngiad o 1.2%.
Ac mae penaethiaid Cyngor Môn yn dweud eu bod “wedi eu siomi, ond heb eu synnu” bod nifer siaradwyr Cymraeg yr ynys wedi cwympo i 37,413.
Ym Môn bellach mae’r pedwerydd nifer uchaf o siaradwyr yr iaith, gyda Gwynedd ar y brig gyda 73,560, yna Sir Gaerfyrddin gyda 72,838, a Chaerdydd gyda 42,757.
Llai o blant yn ei siarad hi
Mae yna gynnydd wedi bod yn nifer y rhai sy’n dweud eu bod yn medru siarad Cymraeg yn Niwbwrch, Biwmares a Chaergybi.
Ac mae’r sir hefyd wedi dal ei gafael ar gymunedau lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg – trothwy sy’n allweddol er mwyn cynnal iaith o fewn cymuned.
Ond y duedd sy’n peri’r pryder mwyaf yw’r gostyngiad yn nifer y plant sy’n defnyddio’r iaith.
Dywedodd y deilydd portffolio Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Ieuan Williams:
“Mae’n bryder mawr fod y data’n dangos fod llai o blant yn siarad Cymraeg o gymharu â degawd yn ôl.
“Mae rhai wedi awgrymu mai’r pandemig COVID-19 yw’r rheswm a bod y ffigurau’n adlewyrchu dehongliad rhieni o sgiliau eu plant yn hytrach na gwir allu yn y Gymraeg.
“Er nad yw’r dirywiad ar Ynys Môn mor ddifrifol ac mewn rhannau eraill o Gymru, mae’n hollbwysig ein bod yn deall beth yw’r rheswm am hyn.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J Williams:
“Mae gennym, fel awdurdod lleol, ran allweddol i chwarae wrth amddiffyn a hybu’r Gymraeg.
“Rydym yn gweithio’n ddygn i gryfhau’r economi leol, denu buddsoddiad a chreu swyddi a chyfleoedd fydd yn cadw ein pobl ifanc yn eu cymunedau; yn prysur adeiladu tai Cyngor newydd fydd yn cynnig cartrefi fforddiadwy i drigolion lleol ac yn sicrhau bod ein hysgolion yn flaenllaw wrth hybu’r iaith ymysg y ifanc.”
“Er siom canfyddiadau’r Cyfrifiad, bydd y Cyngor yn parhau i hyrwyddo’r iaith i’r eithaf drwy sicrhau bod y Gymraeg yn flaenllaw yn ein blaenoriaethau, penderfyniadau a’n gwaith.”
Dywedodd Ffreuer Owen, Rheolwr Polisi a’r Gymraeg:
“Mae rhai o gymunedau Cymreiciaf Cymru yma ar Ynys Môn.
“Mae dyletswydd arnom i’w cynnal, yn ogystal ac adeiladu ar y twf calonogol mewn siaradwyr Cymraeg rydym wedi ei weld ardaloedd eraill o’r sir.
“Bydd parhau i gydweithio gydag ysgolion, cynghorau tref a chymuned, a’n holl fudiadau partner sy’n rhan o Fforwm Iaith Ynys Môn yn allweddol.”