Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n dweud bod rhaid dwyn Dŵr Cymru i gyfrif am fethu ag atal achosion o lygredd dŵr.
Mae adroddiad gan y rheoleiddiwr Ofwat yn enwi Dŵr Cymru ymhlith y chwe chwmni dŵr gwaethaf yn y Deyrnas Unedig am atal llygredd, ac fe dynnodd yr adroddiad sylw’n benodol at safon dŵr yfed, gwaith yn tarfu ar gyflenwadau, ac ansawdd y dŵr yn gyffredinol.
Fe wnaeth y cwmni hefyd fethu â bwrw eu targed ar gyfer lleihau achosion o lygredd.
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ymgyrch ar y gweill i atal carthion rhag cael eu gollwng yn afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru, ac maen nhw wedi bod yn galw am wahardd rhoi bonws i benaethiaid ac i’r arian gael ei fuddsoddi mewn gwella isadeiledd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fe fu 203,071 o achosion o ollwng carthion mewn afonydd, sydd wedi para cyfanswm o 1,687,475 o oriau.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae penaethiaid Dŵr Cymru wedi derbyn £2.4m, gan gynnwys bonws gwerth £808,000 – a hynny er bod y cwmni’n un nid-er-elw.
Bythefnos yn ôl, datgelodd dadansoddiad o ddata Asiantaeth yr Amgylchedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol fod Dŵr Cymru wedi gollwng carthion ar draethau Baner Las 579 o weithiau, gan bara cyfanswm o 6,757 o oriau.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Lafur Cymru i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru ac i gryfhau deddfwriaeth er mwyn codi safon cwmnïau dŵr.
Maen nhw hefyd wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o fethu â deddfu i atal gollwng carthion nac i roi arfau rheoleiddio go iawn i Ofwat ar lefel San Steffan.
‘Rhagor o ganlyniadau siomedig’
“Dyma ragor o ganlyniadau siomedig i Dŵr Cymru, ond eto mae’r cwmni wedi parhau i ddosbarthu bonws mawr i’w penaethiaid er gwaetha’r canlyniadau gwael hyn, a hwythau i fod yn gwmni nid-er-elw ac yn sgil y sgandal gollwng carthion parhaus,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Dylid gwahardd ar unwaith y bonws yma sy’n gwobrwyo methiant, a symud yr arian yn uniongyrchol tuag at wella isadeiledd ar draws y rhwydwaith.
“Mae’r Ceidwadwyr wedi methu â deddfu ar lefel San Steffan yn erbyn gollwng carthion, ar yr un pryd ag y maen nhw’n methu â rhoi arfau rheoleiddio go iawn i Ofwat.
“Mae hefyd angen i ni weld Llywodraeth Lafur Cymru’n gweithredu i sicrhau bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru yr arian a’r staff sydd eu hangen arnyn nhw i wneud eu gwaith yn iawn, a bod deddfwriaeth yn cael ei chryfhau fel bod cwmnïau dŵr yn gallu cael eu rheoleiddio’n llymach.”