Dim ond traean o fenywod beichiog yng Nghymru fyddai’n barod i gael brechlyn Covid-19 yn ystod beichiogrwydd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.

Ond o blith y rheiny, mae dau draean yn dweud y bydden nhw’n barod i gael brechlyn fel arall.

Mae petruster o ran brechlyn yn ystyriaeth bwysig ymysg poblogaethau sy’n agored i niwed, megis menywod beichiog yn ystod y pandemig.

Nod yr astudiaeth, a gafodd ei harwain gan y tîm Ganed yng Nghymru yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Lles y Boblogaeth – ar y cyd ag Ysgol Feddygaeth Bryste ac Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd:

  • amcangyfrif cyfraddau brechiadau Covid-19 ymysg menywod beichiog yng Nghymru a’u cysylltiad ag oedran, ethnigrwydd, ardal o amddifadedd, gan ddefnyddio cysylltedd data cofnodion iechyd electronig
  • archwilio barn menywod beichiog ar dderbyn brechlyn Covid-19 yn ystod beichiogrwydd gan ddefnyddio data o arolwg recriwtio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, drwy fydwragedd, a phosteri mewn ysbytai.

Nododd yr astudiaeth, a gafodd ei chyhoeddi yn BMC Infectious Diseases, hanes menywod sy’n byw yng Nghymru ac a oedd yn feichiog rhwng Ebrill 13 a Rhagfyr 31 2021, yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn gymwys am frechiad Covid.

Defnyddiodd y tîm Fanc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL), ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn casglu ac archwilio data gan feddygon, derbyniadau i’r ysbyty, iechyd plant cymunedol cenedlaethol, dangosyddion mamol a data brechiadau Covid yng Nghymru.

Mae Banc Data SAIL yn storfa ddata anhysbys sy’n hwyluso cysylltu data.

Drwy gysylltu data, mae’n galluogi ymchwilwyr i ddod â gwybodaeth ynghyd o adnoddau amrywiol i greu dealltwriaeth ddyfnach ac ansawdd gwybodaeth i’w defnyddio yn eu gwaith ymchwil.

Ar wahân, cafodd detholiad o fenywod beichiog yng Nghymru eu gwahodd i gwblhau arolwg ar-lein yn gofyn am eu barn am gael brechiad Covid yn ystod beichiogrwydd, a oedden nhw eisoes wedi’i gael, neu’n bwriadu ei gael yn ystod beichiogrwydd a’r rhesymau dros eu penderfyniadau.

Caiff y Ganolfan Genedlaethol i Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Cafodd yr ymchwil hon ei hariannu gan yr Astudiaethau Craidd Cenedlaethol, menter gaiff ei hariannu gan UKRI, NIHR a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyda chefnogaeth HDR UK.

Dyma’r prif ganfyddiadau:

· Roedd 32.7% o fenywod wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn Covid yn ystod beichiogrwydd;

· Roedd 34.1% heb eu brechu drwy gydol y cyfnod dilynol;

· Roedd 33.2% wedi cael y brechlyn ar ôl rhoi genedigaeth;

· Roedd menywod iau (dan 30 oed) a’r rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn llai tebygol o fod wedi cael y brechlyn; ac

Roedd grwpiau Asiaidd ac ethnig eraill ychydig yn fwy tebygol o gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd o’u cymharu â’r grŵp Gwyn.

 

Dyma brif ganfyddiadau’r arolwg gyda menywod beichiog:

• Nododd 69% y byddent yn hapus i gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd;

• Nododd 31% na fyddent yn cael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd;

• Roedd y rhesymau dros gael y brechlyn yn ymwneud â diogelu eu hunain a’r baban, lefel risg ganfyddedig a derbyn digon o dystiolaeth a chyngor; ac

• roedd y rhesymau dros wrthod cael y brechlyn yn cynnwys diffyg ymchwil am ganlyniadau hirdymor i’r baban, pryder am frechlynnau, cyngor/gwybodaeth anghyson ac yn dewis aros tan ar ôl y beichiogrwydd.

‘Annog poblogaethau sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth’

“Mae brechiadau’n diogelu yn erbyn clefydau difrifol,” meddai Dr Mohamed Mhereeg, Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth.

“Wrth i’r pandemig barhau, mae brechiadau atgyfnerthu’n fwyfwy pwysig i ddiogelu yn erbyn Covid-19 difrifol, yn enwedig ar gyfer poblogaethau sy’n agored i niwed megis menywod beichiog.

“Mae’n hynod bwysig i ddatblygu strategaethau penodol i gynyddu cyfraddau derbyn brechlyn Covid-19 a lleihau petruster.

“Efallai bydd angen ymagwedd fwy penodol at frechiadau i gyrraedd grwpiau penodol megis pobol iau, pobol ddu a lleiafrifoedd ethnig cymysg a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

“Mae annog poblogaethau sy’n agored i newid, gan gynnwys menywod beichiog, yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.”

Yn ôl yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, “mae ymchwil fel hon yn hollbwysig wrth wella ein dealltwriaeth o bobol a’r ffordd maen nhw’n rhyngweithio ag opsiynau gofal iechyd sydd ar gael iddynt”.

“Mae canfyddiadau astudiaeth yn helpu i lywio a chefnogi llunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd i nodi bylchau mewn cyfranogiad, gan roi’r cyfle i ddod o hyd i atebion sy’n diwallu anghenion cynifer o bobpl â phosib, yn enwedig y grwpiau mwyaf agored i niwed,” meddai.