Bydd brwydr iaith te reo Māori, iaith frodorol Seland Newydd, yn cael sylw ar lwyfan y byd yr wythnos hon, ar ddechrau Degawd Ieithoedd Brodorol UNESCO.
Mae’r cynllun, fydd yn para rhwng 2022 a 2032, yn cael ei lansio yn Efrog Newydd a Paris.
Bydd y frwydr tros yr iaith yn cael ei defnyddio fel arf er mwyn galw am warchodaeth i ieithoedd brodorol eraill ar draws y byd, a bydd sylw hefyd i ddyfodol ynysoedd y Môr Tawel.
Yn ôl rhagolygon, gallai hanner y 7,000 o ieithoedd brodorol y byd ddiflannu erbyn diwedd y ganrif hon ac mae un ym mhob pump ohonyn nhw’n cael eu siarad ar ynysoedd y Môr Tawel, sy’n gosod y cymunedau hynny ymhlith y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf.
Ymhlith y rhai fydd yn annerch yr wythnos hon mae’r Athro Rawinia Higgins, Comisiynydd Iaith y Māori, a Willie Jackson, Gweinidog Datblygu’r Māori yn Llywodraeth Seland Newydd.
Yn ôl Rawinia Higgins, mae un iaith frodorol yn marw bob pythefnos ar hyn o bryd, ac mae hi’n darogan mai ychydig iawn fydd yn goroesi dros y canrifoedd nesaf pe bai effeithiau globaleiddio’n cyrraedd penllanw.
Mae hi’n galw am weithredu ar frys er mwyn gwarchod ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau lleiafrifol, ac mae hi wedi dweud wrth y wasg yn Seland Newydd fod “ein hieithoedd brodorol yn cynnal hanesion ein cyndadau, a gobeithio ymhen cenedlaethau i ddod y byddan nhw hefyd yn cynnal hanesion ein disgynyddion”.
Iaith y Māori
Cafodd iaith y Māori warchodaeth gyfreithiol yn 1987.
Yr adeg honno, cafodd y Comisiwn Iaith, Te Taura Whiri i te Reo, ei sefydlu gyda’r bwriad o warchod yr iaith.
Yn 2016, cafodd gweithgor ychwanegol ei sefydlu i ofalu am gymunedau Māori.
Daeth yr iaith yn swyddogol yn dilyn ymgyrch gan ei siaradwyr mewn cartrefi, ysgolion, cymunedau a’r senedd.
Cafodd cenedlaethau o bobol eu curo am siarad yr iaith, ond mae eu hiaith bellach i’w chlywed ym mhob agwedd ar fywyd yn Seland Newydd sydd, yn ôl ymgyrchwyr, yn dangos pwysigrwydd rhoi statws gyfreithiol i ieithoedd sydd mewn perygl o ddiflannu.
Rhan o hynny yw’r Degawd Ieithoedd Brodorol, fydd yn gyfle i dynnu arbenigwyr ieithoedd brodorol ynghyd i annog rhanddeiliaid, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac sy’n creu adnoddau i gefnogi’r ymgyrch.