Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, wedi cyhoeddi y bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9m ar gael i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, er mwyn eu cefnogi wrth iddyn nhw baratoi at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i fusnesau, yn gwella cadernid, yn sicrhau cyfleoedd i fanteisio ar y datblygiadau arloesol diweddaraf yn ogystal â helpu i ddatblygu busnesau ffermio.

Trwy gynnig cyngor a chymorth, mae Cyswllt Ffermio yn chwarae rhan allweddol wrth helpu ffermydd i gyflawni allyriadau carbon sero-net.

Ers ei lansio yn 2015, mae’r rhaglen Cyswllt Ffermio bresennol wedi cefnogi dros 26,500 o unigolion, gan gynnwys 12,615 o fusnesau.

Bydd y rhaglen newydd yn cael ei chynnal am ddwy flynedd hyd at fis Mawrth 2025, a bydd yn canolbwyntio ar baratoi ffermwyr at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Themâu’r rhaglen newydd fydd cynaliadwyedd, gwell perfformiad amgylcheddol a gwell cystadleuaeth fyd-eang.

Fferm Lower Eyton yn Wrecsam

Daeth y cyhoeddiad ar fferm sydd wedi elwa ar Cyswllt Ffermio.

Mae Will a Sarah Evans o Fferm Lower Eyton yn Wrecsam wedi arallgyfeirio’u busnes fferm gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio.

Maen nhw bellach yn cyflenwi bocsys o lysiau tymhorol ffres sydd wedi’u tyfu’n organig, yn syth i gartrefi cwsmeriaid.

Mae Watery Lane Produce yn cynnwys cynhyrchion o’r fferm a chan gyflenwyr lleol.

“Bydd y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd rwy’n ei chyhoeddi heddiw yn fodd o gefnogi ffermwyr Cymru ar adeg allweddol,” meddai Lesley Griffiths.

“Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn dechrau yn 2025 a bydd Cyswllt Ffermio yn rhoi’r cymorth y mae ffermwyr ei angen i baratoi at y cynllun newydd.

“Mae’r diwydiant yn gwerthfawrogi Cyswllt Ffermio ac rwy’n gwybod y bydd ei wasanaethau yn hanfodol dros y ddwy flynedd nesaf wrth inni baratoi’r ffordd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Bydd Cyswllt Ffermio yn rhoi cyngor ynghylch sut y gall busnesau ffermio addasu a pharhau’n gystadleuol.

“Am y tro cyntaf, bydd yn cynnwys rhaglen arddwriaethol gan roi cymorth sy’n benodol i’r sector ar gyfer yr holl dyfwyr gwledig.

“Yn ogystal, mae rhaglen ‘geneteg defaid’ wedi’i datblygu ar gyfer ffermwyr defaid.

“Rwy’n ymwybodol ei bod yn adeg heriol i’r diwydiant.

“Bydd y rhaglen yn rhoi cymorth gwerthfawr wrth inni symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.”

Yn ôl Sarah Evans, mae hi a’i gŵr wedi bod yn “ffodus iawn o’r cymorth”.

“Dechreuodd y cyfan â gweithdy digidol cyn symud ymlaen i fod yn aelod o’r grŵp Agrisgôp,” meddai.

“Rwyf bellach wedi dod o hyd i swydd rwy’n angerddol amdani, rwy’n gwneud fy rhan o ran yr amgylchedd a newid hinsawdd ac rwyf hefyd yn addysgu fy mhedwar plentyn ynghylch y materion pwysig hyn.”

‘Proses lyfn o drosglwyddo’

“Gall ffermwyr ledled Cymru ddisgwyl gweld proses lyfn o drosglwyddo gan fod Cyswllt Ffermio, nid yn unig yn adeiladu ar ei gyflawniadau darparu dros y saith mlynedd ddiwethaf ond hefyd drwy’r cymorth wedi’i dargedu parhaus a fydd yn helpu’r genhedlaeth sydd ohoni heddiw a chenedlaethau’r dyfodol i baratoi at y cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau,” meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sydd wedi darparu rhaglen Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru ers 2015.

“Gan ddefnyddio ein gweithlu maes rhanbarthol profiadol a medrus a’n timau o gynghorwyr, mentoriaid a hyfforddwyr achrededig arbenigol, byddwn yn cynnig ein cefnogaeth i’r rheini oll sy’n gweithio yn ein diwydiant, gan gynnwys newydd-ddyfodiaid ifanc neu newydd sy’n awyddus i ddatblygu yn ogystal â busnesau sefydledig sy’n barod i ystyried gwahanol ffyrdd o weithio.”

Yn ôl Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, eu nod yw “cefnogi pob busnes i gynyddu effeithlonrwydd”.

“Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, drwy feincnodi, trosglwyddo gwybodaeth, arloesi, defnyddio technolegau newydd neu sefydlu mentrau arallgyfeirio,” meddai.

“Y nod yw eu galluogi i leihau costau a chynyddu proffidioldeb wrth barhau i gynnal y lefelau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid a rheoli tir.”