Ynys Enlli ydy’r safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol.
Caiff y statws ei roi gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol i leoliadau anghysbell lle mae ychydig o fygythiadau cyfagos i ansawdd yr awyr yno yn y nos.
Gyda’r dynodiad newydd, mae Ynys Enlli wedi bodloni meini prawf llym ac yn ymuno â dim ond 16 o safleoedd eraill tebyg yn y byd.
Fel arfer, mae’r noddfeydd ymysg y llefydd mwyaf anghysbell ac – yn aml – tywyllaf yn y byd.
‘Camp anhygoel’
Dywed Siân Stacey, cadeirydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, ei bod hi’n fraint cael cyhoeddi’r newyddion.
“Mae’n gamp anhygoel a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses,” meddai.
“Mae hyn yn benllanw ar flynyddoedd o waith caled gan ein tîm ni yn ogystal â’n partneriaid ar draws y rhanbarth a thu hwnt.
“Heb unrhyw amheuaeth mi fydd gweld Ynys Enlli yn derbyn y statws pwysig yma yn codi proffil yr ynys fel llecyn unigryw yng Nghymru ac ymhlith y gorau yn y byd i werthfawrogi awyr y nos.
“Gobeithio hefyd y bydd yn mynd yn bell o ran sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr ynys.”
‘Diogelu rhywbeth mor arbennig’
Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, cafod rhaglen bedair blynedd ei chynnal fel rhan o’r cais i fonitro ansawdd awyr y nos er mwyn dangos ei bod hi ddigon tywyll i gael y dynodiad.
Roedd Mari Huws, un o wardeiniaid Enlli, yn rhan o’r broses o ymgeisio am y statws.
“Fel rhywun sy’n byw yma, rydw i wastad yn cael fy syfrdanu gan harddwch yr ynys – ac mae awyr y nos yn rhan fawr o hynny,” meddai.
“Yn dilyn sicrhau’r dynodiad newydd, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r ynys dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf i ni fedru rhannu ein stori unigryw gyda nhw.
“Roedden ni’n gwybod ein bod yn byw mewn lle arbennig, mae’r statws yma yn cadarnhau hyn, gyda’r Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn gosod Enlli yn gadarn ar lwyfan rhyngwladol.
“Mewn byd sy’n wynebu llygredd cynyddol, mae’n fraint gallu gweithio tuag at ddiogelu rhywbeth mor arbennig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
‘Un o’r gwledydd mwyaf blaenllaw’
Ychwanega Ruskin Hartley, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, eu bod nhw’n falch o allu croesawu Ynys Enlli “i’r gymuned o safleoedd awyr dywyll ar hyd a lled y byd”.
“Mae’n golygu bod Cymru’n prysur ddod yn un o’r gwledydd mwyaf blaenllaw o ran gwarchod yr awyr dywyll fel adnodd gwerthfawr, sydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt,” meddai.