Mae’r enwau mae’r Cyngor yn eu cynnig ar gyfer dwy ysgol Saesneg 3-16 ac ysgol Gymraeg newydd ym Mhontypridd wedi cael eu datgelu.

Ysgol Afon Wen yw’r enw sydd wedi’i gynnig ar gyfer yr ysgol 3-16 oed yn y Ddraenen Wen, tra bod Ysgol Bro Taf wedi’i gynnig ar gyfer yr ysgol 3-16 oed ym Mhontypridd, ac Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf sydd wedi’i gynnig ar gyfer yr ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen.

Bydd yr argymhellion yn mynd gerbron y Cabinet ddydd Mawrth (Chwefror 28) i’w cymeradwyo.

Mae adroddiad y Cabinet yn dweud bod prifathrawon a llywodraethwyr dros dro’r tair ysgol wedi cwblhau ymgynghoriad eang ar yr enwau newydd ar gyfer y tair ysgol, ac wedi cytuno ar enwau addas i’r Cabinet eu hystyried.

Cytunodd y Cabinet yn eu cyfarfod ar Orffennaf 18, 2019 i dderbyn y cynigion yn ffurfiol i greu ysgolion 3-16 oed yn y Ddraenen Wen a Phontypridd, ac ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen.

Cafodd cyrff llywodraethu dros dro eu penodi wedyn yn y tair ysgol, er mwyn goruchwylio penderfyniadau ar sefydlu’r ysgolion.

Ers hynny, mae’r cyrff llywodraethu wedi penodi prifathrawon, ac mae lle i gredu y bydd y broses o benodi’r holl staff arall yn dechrau yn ystod tymor y gwanwyn eleni, gyda’r tair ysgol yn agor ym mis Medi 2024.

Brandio

Mae’r gwaith ar frandio sy’n cynnwys arwyddion a logos, dewisiadau ar gyfer gwisg a lliwiau’r ysgol yn dibynnu ar gymeradwyo enwau’r ysgolion, meddai’r adroddiad.

Fe wnaeth pob prifathro gwblhau ymgynghoriad â’r disgyblion a’r staff yn yr ysgolion fydd yn cau er mwyn creu’r ysgolion newydd.

Fe wnaeth y cyrff llywodraethu dros dro ystyried y cynigion, a chytunodd pob un ohonyn nhw ar y pedwar opsiwn ar gyfer pob ysgol i ymgynghori â’r holl ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a’r gymuned ar ffurf holiadur ar wefan Rhondda Cynon Taf.

Ar gyfer yr ysgol 3-16 oed yn y Ddraenen Wen, cafodd yr enw Ysgol Afon Wen y ganran uchaf o bleidleisiau (35%), tra bod Ysgol Bro Taf wedi cael y ganran uchaf o bleidleisiau (43.1%) ar gyfer yr ysgol 3-16 oed ym Mhontypridd.

Ar gyfer yr ysgol Gymraeg newydd, cafodd Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf y ganran uchaf o bleidleisiau (39%).