Mae Huw Edwards wedi dadorchuddio plac glas yn Llundain, er cof am Richard Price, yr athronydd, mathemategydd, deallusyn, Anghydffurfiwr a phregethwr o Gymru.

Cafodd ei eni yn Llangeinor union 300 mlynedd yn ôl i heddiw (dydd Iau, Chwefror 23), yn fab i weinidog Calfinaidd.

Roedd yn bregethwr mewn capel yn Newington Green ar ôl bod yn gaplan teuluol yn yr ardal honno.

Roedd yn briod â Sarah Blundell, ac fe ymgartrefon nhw yn Newington Green yn 1758.

Astudiodd e athronyddiaeth, mathemateg, gwleidyddiaeth a diwinyddiaeth yn ei amser hamdden, gan gyhoeddi astudiaeth o foesau yn 1758 gafodd ei chymharu â gwaith Immanuel Kant.

Cafodd ei ethol yn aelod o’r Gymdeithas Frenhinol yn 1765 yn sgil ei waith ym maes yswiriant ar ôl bod yn astudio damcaniaethau tebygolrwydd, ac fe ddaeth yn ddiweddarach yn ymgynghorydd economaidd i lywodraeth William Pitt yn San Steffan.

Ond crefydd oedd ei brif faes diddordeb ar hyd ei oes, er iddo gefnu ar Galfiniaeth a dod yn Undodwr yn ddiweddarach.

Erbyn 1771, roedd yn aelod o grŵp Bowood, deallusion radical o dan arweiniad William Petty, gan amddiffyn gwrthryfelwyr Americanaidd a hawl cymunedau i ymreolaeth.

Daeth yn ffrind agos i Benjamin Franklin, Thomas Jefferson a Benjamin Rush, ac fe fu’n allweddol wrth gynghori ar Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau.

Roedd yn ffigwr allweddol yng ngwleidyddiaeth San Steffan hefyd, yn enwedig o ran diwygio cynrychiolaeth yn y senedd, ac roedd yn gefnogwr o’r Chwyldro Ffrengig.

Niweidio’i enw da

Cafodd ei ddifrïo ar ôl marw am iddo gefnogi’r Chwyldro Ffrengig, ac ymhellach pan gafodd ei astudiaeth o ostyngiad yn y boblogaeth ei gwrthbrofi gan Gyfrifiad 1801.

Yn sgil yr helynt, roedd ei enw da mewn sawl maes wedi’i niweidio, ond roedd yn dal i gael ei ganmol am ei waith ym maes yswiriant.

Ond mae’n cael ei ddathlu unwaith eto ers ail hanner yr ugeinfed ganrif, yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Bu farw yn Hackney yn 1791 yn 68 oed.

Mae rhannau helaeth o’i gartref yn Newington Green wedi goroesi hyd heddiw.