Mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud tro pedol ar nifer o gynigion allweddol ar gyfer toriadau yn eu cyllideb, yn dilyn ymgyrch gan Ein Dinas Ein Diwylliant.

Yn gynharach yn y flwyddyn, fe wnaeth y Cyngor ymgynghori ledled y ddinas ar sut y gallen nhw bontio diffyg ariannol o £24m yn eu cyllideb, ac fe wnaeth bron i 6,000 o bobol gymryd rhan yn yr ymgynghoriad chwe wythnos.

Roedd syniadau’r Cyngor yn cynnwys torri oriau agor yr hybiau a llyfrgelloedd, gan gynnwys eu cau am ddiwrnod ychwanegol yr wythnos, caniatáu i hyrwyddwr allanol redeg Neuadd Dewi Sant, a throi Amgueddfa Caerdydd yn weithrediad symudol.

Daeth Cynulliad y Bobol Caerdydd, Cymdeithas Ddinesig Caerdydd a grwpiau hanes, treftadaeth a chadwraeth leol ynghyd i brotestio’r cynigion ar y strydoedd ac ar-lein.

Amgueddfa Caerdydd

Bu Cyngor Caerdydd yn ystyried cau Amgueddfa Caerdydd, sy’n adrodd hanes y ddinas, a’i throi’n atyniad symudol er mwyn arbed arian.

Daeth yr ymgynghoriad yn dilyn penderfyniad nad oedd y lleoliad presennol yn yr Hen Lyfrgell yn addas.

Fodd bynnag, byddai symud yr amgueddfa wedi gofyn am fuddsoddiad sylweddol yn ychwanegol at y cymhorthdal refeniw o £498,000 mae’n ei dderbyn bob blwyddyn.

Y bwriad oedd symud arddangosfeydd a gweithgareddau’r Amgueddfa o amgylch Caerdydd, gyda thîm allweddol bychan yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned a gofalu am y casgliad.

Roedden nhw’n credu y byddai hyn yn arbed £266,000 y flwyddyn iddyn nhw, ac yn caniatáu i’r Cyngor ailagor yr amgueddfa mewn cartref parhaol yn y dyfodol, pe byddai lleoliad addas a chyllid ar gael.

Ond bu ymgyrchu brwd yn erbyn y cynnig, a dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Cadwraeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd ei fod yn syniad “gwarthus”.

Roedd 57.1% o blaid mynd ag Amgueddfa Caerdydd allan o’r Hen Lyfrgell a’i gwneud yn atyniad symudol, ac roedd 42.9% eisiau cadw’r amgueddfa ar agor yn y llyfrgell a dod o hyd i arbedion mewn mannau eraill

Bydd Amgueddfa Caerdydd nawr yn aros ar agor yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais am y tro.

“Mae’r cynnig i leihau’r arlwy yn Amgueddfa Caerdydd a/neu newid i wasanaeth symudol wedi cael ei ddileu,” meddai’r Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.

“Yn hytrach, byddwn ni’n gweithio gydag ymddiriedolwyr yr amgueddfa i sicrhau dyfodol cynaliadwy, gan gynnwys edrych ar opsiynau ar gyfer darparu’r gwasanaeth mewn lleoliad arall.”

Hybiau a Llyfrgelloedd

Cynnig arall y bu’r Cyngor yn ei ystyried oedd torri oriau agor yr hybiau a llyfrgelloedd, gan gynnwys eu cau am ddiwrnod ychwanegol yr wythnos a/neu brynhawn Sadwrn.

Roedd y cynnig hefyd yn cynnwys defnyddio mwy o wirfoddolwyr di-dâl i lenwi swyddi yn hytrach na staff llyfrgell sy’n gyflogedig.

Ond daeth criw o awduron, cyhoeddwyr ac ymgyrchwyr at ei gilydd i rannu eu pryder dros ddyfodol llyfrgelloedd pe byddai toriad.

Mae’r Cyngor wedi penderfynu y bydd oriau agor mewn Hybiau a Llyfrgelloedd hefyd yn aros yr un fath.

“Rydym wedi gwrando ar farn ein trigolion ac wedi dileu rhai o’r opsiynau arbedion y buom yn ymgynghori arnynt,” meddai Huw Thomas.

“O ran Hybiau a Llyfrgelloedd, nid yw cynigion i leihau oriau agor a/neu gau ar benwythnosau wedi eu symud ymlaen.

“Mae unrhyw newidiadau’n cael eu cyfyngu i gael gwared ar nifer fach o swyddi gwag hirdymor yn y gwasanaeth.”

Roedd 72% o blaid diogelu hybiau a gwasanaethau llyfrgell yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Neuadd Dewi Sant

Fodd bynnag, mae un cynnig y bu ymgyrchu yn ei erbyn yn symud yn ei flaen, sef caniatáu i hyrwyddwr allanol redeg Neuadd Dewi Sant.

Mae’r Cyngor yn bwriadu ymchwilio i gynnig gan Grŵp Cerddoriaeth yr Academi i gymryd drosodd Neuadd Dewi Sant a fyddai’n diogelu’r calendr clasurol a chymunedol o ddigwyddiadau wrth uwchraddio’r neuadd hefyd, fyddai’n cael ei ymchwilio’n llawn o dan gynigion y gyllideb.

Roedd 59% o’r rhai wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad o blaid y cynnig i ddod o hyd i bartner newydd i redeg Neuadd Dewi Sant gyda 26% yn erbyn.

Byddai’r cynnig yn arbed hyd at £800,000 y flwyddyn mewn cymorthdaliadau blynyddol, meddai Cyngor Caerdydd.

Wrth ymateb ar Twitter, dywedodd Cynulliad y Bobol Caerdydd eu bod “yn parhau i frwydro yn erbyn preifateiddio Neuadd Dewi Sant”.

“Mae Cyngor Caerdydd yn ei alw’n ‘Gyllideb ar gyfer Dinas Gryfach, Werddach a Thecach,” meddai.

“Celwydd! Mae hon yn gyllideb austerity.”

Trosolwg

Byddai cynigion y gyllideb yn gweld:

  • Amgueddfa Caerdydd yn parhau ar agor
  • Byddai llyfrgelloedd a Hybiau’n parhau ar agor o dan y trefniadau presennol
  • Byddai canolfannau ailgylchu yn cau ar un diwrnod o’r wythnos
  • Byddai cynlluniau yn mynd rhagddynt ar chwilio am bartneriaid allanol i redeg Neuadd Dewi Sant, a’r Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn
  • Byddai unrhyw gynnydd ar brydau ysgol wedi ei gyfyngu i 5% sef hanner y codiad o 10% yr ymgynghorwyd arno
  • Byddai cost amlosgi yn cynyddu 5.1% a chladdu o 6.8%
  • Byddai Trwyddedau Parcio Preswyl yn cynyddu i’r drwydded gyntaf i £24 a’r ail i £54 (£7.50 a £30.00 ar hyn o bryd)
  • Byddai llogi caeau chwaraeon yn cynyddu 10%
  • Byddai parcio talu ac arddangos yn cynyddu 50c yr ymweliad ar y stryd a £1 ym meysydd parcio’r cyngor