Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried cau un o’u hamgueddfeydd a’i throi’n atyniad symudol er mwyn arbed arian.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn agor ddydd Gwener (Rhagfyr 23) er mwyn trafod y posibilrwydd o gau Amgueddfa Caerdydd, sydd wedi’i lleoli yn yr Hen Lyfrgell.
Daw’r ymgynghoriad yn dilyn penderfyniad nad yw’r lleoliad presennol yn addas.
Fodd bynnag, byddai symud yr amgueddfa yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol yn ychwanegol at y cymhorthdal refeniw o £498,000 y mae’n ei dderbyn flwyddyn.
Byddai arddangosfeydd a gweithgareddau’r Amgueddfa yn symud o amgylch Caerdydd, a byddai tîm allweddol bychan yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned a gofalu am y casgliad.
Byddai hyn yn arbed £266,000 y flwyddyn iddyn nhw, ac yn caniatáu i’r Cyngor ail-agor yr amgueddfa mewn cartref parhaol yn y dyfodol, pe canfyddir lleoliad addas a chyllid.
Amgueddfa’r bobol
Ond, yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Cadwraeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd mae’r cynnig yn un siomedig iawn.
“Mae’r syniad na fyddai gan Gaerdydd, prifddinas Cymru, amgueddfa ei hun am y ddinas yn warthus,” meddai’r athro Jane Henderson wrth golwg360.
“Fe wnaethon nhw adeiladu’r amgueddfa gydag arian y loteri, felly arian cyhoeddus oedd hwnnw.
“Cawsant arian gan Sefydliad Moondance y teulu Engelhardt, ac fe gawson nhw roddion gan bobol leol.
“Felly fe wnaeth Cyngor Caerdydd dderbyn yr arian yma i adeiladu amgueddfa yng nghanol y dref ac fe wnaeth pobol roi pethau i’r amgueddfa.
“Fe wnaeth [y Frenhines Drag] Dr Bev roi gwisg drag, wnes i roi crys-t o ymgyrch y Cardiff Three, dw i’n gwybod am bobol sydd wedi rhoi cerameg o Gaerdydd.
“Mae pobol wedi rhoi pethau maen nhw’n meddwl sy’n dweud stori Caerdydd yn disgwyl i’r ddinas fod ag amgueddfa.”
‘Sarhad’
Yn ôl Jane Henderson, mae’r cynnig yn “sarhad go iawn” i bawb sydd wedi buddsoddi amser ac arian yn yr amgueddfa.
“Maen nhw’n trio arbed llai na £300,000 y flwyddyn sydd yn lot o arian ond dwyt ti ddim yn arbed hynny os wyt ti’n sefydlu lot o amgueddfeydd bach mewn lleoliadau gwahanol.
“Os oes gen ti amgueddfa symudol, mae gen ti gerbyd, gwaith cynnal a chadw a thrafnidiaeth… Mae o’n mynd i gostio arian ac mae rhaid dal i gasglu.
“Mae’n rhaid dweud stori Caerdydd a lle ddylai’r stori yna cael ei ddweud heblaw am Gaerdydd?
“Os ydyn ni eisiau bod yn ddinas anhygoel sy’n werth dod i’w gweld, mae’n rhaid buddsoddi’n rhywle.
“Dwyt ti methu cario ymlaen i werthu dy asedau.”
Beth nawr?
Gan y bydd y cynnig yn mynd i ymgynghoriad ddydd Gwener, mae Jane yn annog trigolion i sgrifennu at eu cynghorwyr.
“Y cam cyntaf ydy bod pobol yn dweud wrth eu cynghorwyr ‘Rydyn ni’n gweld beth ydy hyn ac rydyn ni’n gwrthwynebu’.
“Os mae’r cyngor yn penderfynu mynd ymlaen ar ôl y 22ain, byddan nhw’n dweud wrth bobol bod eu swyddi dan risg ar y 23ain.
“Am neges. Sbwylio’r Dolig i nifer.”
Effaith yr argyfwng costau byw
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: “Yn union fel y mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar gyllideb pob cartref ar draws Cymru, mae’r un peth yn wir am bob gwasanaeth y mae’r cyngor yn ei ddarparu.
“Mae’n golygu bod popeth rydyn ni’n ei wneud, pob gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig nawr yn costio llawer mwy i’w ddarparu.
“Does dim dwywaith bod y cynnydd gwell na’r disgwyl o 9% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn newyddion da.
“Ychydig ddyddiau yn ôl, roeddem yn edrych ar ddiffyg £53m yn ein cyllideb, ond trwy haelioni Llywodraeth Cymru wrth sicrhau bod mwy o arian ar gael, mae hwn bellach wedi gostwng i £23.5m.
“Ond mae hyn yn dal i fod yn swm enfawr o arian i ddod o hyd iddo, yn enwedig ar ôl torri tua chwarter biliwn o’n cyllideb dros y deng mlynedd diwethaf.
“Rwyf am i drigolion wybod ein bod eisoes wedi bod yn gwneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol trwy gydol y flwyddyn i baratoi ar gyfer y storm ariannol yr oeddem yn ei gweld yn dod tuag atom, a’r flwyddyn nesaf rydym yn bwriadu gwneud o leiaf £8.5m arall mewn arbedion effeithlonrwydd.
“Mae’r cynnydd o 9% yn y gyllideb gan Lywodraeth Cymru yn golygu y byddwn ni’n gallu diogelu gwasanaethau pwysig fel gofal cymdeithasol a chyllidebau ysgolion yn well.
“Rydym yn edrych ar gynyddu cyllidebau ysgolion o £25 miliwn y flwyddyn nesaf, sef cynnydd o 9.2%, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu gwasanaethau cymdeithasol a’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
“Mae hefyd yn golygu nad oes angen trafod llawer o’r opsiynau mwy annymunol yr oeddem yn gorfod eu hystyried, o leiaf am y tro, ond rydym yn gwybod bod dewisiadau anodd i’w gwneud o hyd, a dyna pam mae mor bwysig bod trigolion yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a dweud wrthym beth sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw.
“O ystyried hyn i gyd, mae’r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol yn y galw a chostau cynyddol sy’n arwain at her gyllidebol mor sylweddol ag unrhyw beth a welwyd dros y ddeng mlynedd diwethaf.”