Mae cwynion wedi cael eu codi gan nad ydy adeilad Cyngor Ceredigion yn Aberystwyth yn cael cymaint o ddefnydd ers i staff ddechrau gweithio’n hybrid.
Yn ôl cynghorydd Gwlad dros ward Llanrhystud, dydy’r adeilad, a gostiodd £15 miliwn pan agorodd yn 2009, ddim yn cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd yn wreiddiol.
Ym mis Gorffennaf eleni, cytunodd y Cyngor ar Strategaeth Gweithio Hybrid a Pholisi Hybrid Dros Dro, ac mae lle wedi’i greu yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth a Phenmorfa yn Aberaeron i staff ei ddefnyddio pan fyddan nhw am gyfarfod neu weithio o’r swyddfa.
Mae ystadegau gan Gyngor Ceredigion yn dangos bod 67 desg ar gael yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth.
Fodd bynnag, mae’r data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mehefin 2022, pan gyflwynwyd desgiau hybrid yn yr adeilad, yn dangos mai 36 ohonyn nhw, ar gyfartaledd, sy’n cael eu defnyddio bob diwrnod.
Ar gyfartaledd, 31 o bobol sy’n mynychu’r swyddfa bob diwrnod, a 43 yw’r nifer uchaf i fynd mewn i’r swyddfa ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod.
“Mae dwy ochr i’r ddadl, ond mae o wedi costio llawer i adeiladu’r adeilad a dydyn ni ddim yn ei ddefnyddio fel roedd o wedi cael ei ddylunio i’w wneud,” meddai Gwyn Wigley Evans, cynghorydd Llanrhystud, wrth golwg360.
“Mae sawl person wedi bod yn achwyn i mi fod nhw’n gweld o’n wag,” meddai.
“Mae gan y bobol bwynt, mae yna wresogi yn mynd ymlaen ar y ddau adeilad [Canolfan Rheidol a Phenmorfa], ac mae pobol adra hefyd yn gwresogi.
“Mi fysa’n syniad, ac rwy’n gwybod bod y cyngor yn edrych mewn i’r peth, i osod lloriau cyfan allan i gwmnïau neu’r adran iechyd ac yn y blaen.
“Byddai’r lle’n cael ei ddefnyddio.”
‘Ystyried teimladau’r gweithwyr’
Wrth ystyried strategaeth hirdymor y Cyngor, mae Gwyn Wigley Evans yn pwysleisio ei bod hi’n bwysig ystyried teimladau’r gweithwyr ynglŷn â gweithio hybrid, gweithio o adre neu weithio o swyddfeydd.
“Mae’n bwysig bod nhw’n gweithio rota, hynny ydy, pwy sy’n mynd mewn a pha bryd fel bod nhw’n gallu cwrdd â’i gilydd mewn un adran. Dydy hyn heb fod yn digwydd.
“Serch hyn mae yna gyfarfodydd yn mynd ymlaen, mae yna gwrdd.
“Y peth arall, mae angen meddwl am y gofid o weithio o adref. Dydy o ddim y peth gorau i bawb.
“Mae’n well gan lawer o bobol fod mewn grŵp, mae angen cyfathrebu efo’r bobol rydych yn gweithio efo nhw.”
‘Cyfleoedd sylweddol i ddarparu cyfleusterau eraill’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion eu bod nhw’n dysgu mwy am yr angen am ddesgiau a mannau cyfarfod wrth i amser basio.
“Ym mis Gorffennaf 2022, cytunodd y Cyngor ar Strategaeth Gweithio Hybrid a Pholisi Hybrid Dros Dro ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion, a hynny am gyfnod prawf o 12 mis,” meddai.
“Mae’r rhain yn cyflwyno’r weledigaeth a’r fframwaith i addasu’r modd y mae staff yn gweithio a sut y defnyddir mannau gwaith.
“Ar hyn o bryd, mae lle wedi’i greu yng Nghanolfan Rheidol a Phenmorfa i staff ei ddefnyddio pan fyddant am gyfarfod neu weithio o swyddfa.
“Mae lefel y gofod sydd ar gael yn adlewyrchu’r gwaith ymgysylltu cynnar a wnaed â staff a rheolwyr ynghylch eu hanghenion tebygol.
“Wrth i’r cyfnod prawf fynd rhagddo, mae’r gwir angen am ddesgiau a mannau cyfarfod yn dod yn fwy amlwg.
“Mae hyn, yn ei dro, yn golygu ei bod yn gliriach ei bod yn debygol y bydd cyfleoedd sylweddol ar gael i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus newydd neu ddarparu ar gyfer cyfleusterau eraill yng Nghanolfan Rheidol, Penmorfa a Neuadd y Sir.
“Enghraifft o’r cyfleoedd hyn yw bod y Cyngor a Hywel Dda wedi cytuno y dylid defnyddio rhan o’r llawr gwaelod yng Nghanolfan Rheidol i ddarparu gwasanaethau ffisiotherapi i gleifion allanol.
“Bydd hyn ar sail dros dro tra bydd y cyfnod prawf hybrid yn parhau, a bydd y Cyngor yn ystyried y defnydd amgen gorau o ofod yn y tymor hwy yn ei swyddfeydd.
“Disgwylir i’r gwasanaeth hwn ddechrau yn gynnar yn 2023.”
Ym mis Tachwedd, gwnaed rhaid addasiadau wrth i rai o’r desgiau hybrid newid i fod yn ddesgiau sefydlog, a chyflwynwyd mwy o ystafelloedd i staff tua’r un pryd.
Ychwanegodd bod y rhan fwyaf o wasanaethau’r Cyngor, er enghraifft ysgolion, gofal, hamdden, cynnal a chadw priffyrdd, glanhau strydoedd, a chasgliadau gwastraff, yn aros fel ag yr oedden nhw.
“Nid oes unrhyw wasanaeth wedi’i derfynu; mae gwasanaethau’n parhau i gael eu darparu ond mae rhai yn cael eu darparu mewn ffyrdd gwahanol ac, fel arfer, mewn mwy o ffyrdd na chyn y pandemig,” meddai.