Dydy pobol sydd ar restr blaenoriaeth Dŵr Cymru heb glywed gan y cwmni ers i broblemau â’r cyflenwad dŵr ddechrau yn y canolbarth a’r gorllewin dros y penwythnos, yn ôl un sydd ar y rhestr.

Mae hyd at 4,500 o bobol yn parhau heb ddŵr wrth i bibelli ddadmer ar ôl y tywydd oer, gyda rhai cartrefi heb gyflenwad ers dydd Sadwrn (Rhagfyr 17).

Un o’r rheiny ydy cartref Cat Dafydd yn Llandysul, sydd ar restr blaenoriaeth Dŵr Cymru, ac sydd dal heb glywed dim byd gan Dŵr Cymru.

Mae’r rhestr flaenoriaeth yn cynnwys pobol sydd gan fabanod, yn dioddef o salwch sy’n gofyn am ddŵr, yn cael anawsterau gyda golwg neu eu clyw, neu’n oedrannus neu ag anableddau.

Dylai pobol ar y rhestr blaenoriaeth dderbyn dŵr wedi’i botelu os oes problemau â’r cyflenwad.

“Ni ddim wedi cael unrhyw beth,” meddai Cat Dafydd wrth golwg360.

“Aeth ein dŵr ni ffwrdd nos Sadwrn tua 5 o’r gloch a ni ddim wedi cael text na dim byd.

“Gaethon ni chwe photel 2L o ddŵr nos Sadwrn ond roedden nhw’n rhoi’r rheiny i’r stad i gyd, felly doedd e ddim oherwydd y rhestr blaenoriaeth.

“Wnes i ffonio heddiw ac i ddechrau roedd e’n anodd ffeindio rhywun oedd yn dweud mwy na ‘Sori does dim byd mwy am y system yna, maen nhw’n gweithio arno fe’.

“Dw i ddim yn gofyn am ddiweddariad, dw i’n gofyn am pam dydw i ddim yn cael texts.

“Dw i wedi gofyn wrth ffrindiau sydd ar y rhestr hefyd a dyw nhw ddim wedi cael unrhyw text na dŵr.

“Mae’n anhygoel.

“Dw i’n gwybod bod hyn yn argyfwng a bod neb wedi gweld o’n dod, ond yr un pryd dylai fod cynllun wedi bod mewn lle.”

Cat a’i gŵr, Iestyn ap Dafydd.

‘Anhygoel’

Fel teulu o chwech doedd y cyflenwad o ddŵr wedi’i botelu ddim yn ddigon o bell ffordd, meddai Cat Dafydd.

Yn ôl Yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr, neu Ofwat, os bydd y cyflenwad dŵr trwy bibell yn methu, rhaid i’r cwmnïau ddarparu o leiaf 10 litr o ddŵr y person y dydd i’r defnyddwyr yr effeithir arnynt o fewn y 24 awr gyntaf, a chynnal hyn nes bod y cyflenwad pibellau wedi’i adfer.

“Ni ddim wedi golchi llestri, does dim gyda ni unrhyw beth glan, ni ddim wedi golchi dillad, ni ddim wedi cael cawodydd a golchi ein gwallt achos ni’n trio cadw ein defnydd lawr,” meddai.

“Mae fy ngŵr i’n casglu dŵr glaw felly diolch byth ni wedi defnyddio hwnna i fflysio’r tŷ bach, ond ni dim ond yn fflysio dwywaith y dydd.”

Daeth y newyddion prynhawn heddiw fod man casglu Llandysul wedi rhedeg allan o boteli dŵr i’w ddarparu ar ôl dosbarthu 30,000 potel.

Bydd y man casglu nawr ar gau nes bydd mwy o gyflenwad yn eu cyrraedd.

“Iddyn nhw ddweud am 2 o’r gloch eu bod wedi rhedeg allan a bydd ddim dŵr nes 6, mae hynny’n anhygoel i fi.

“Os ydi Ofwat yn dweud 10 litr yr un, ydy rhyw 5 potel yn ddigon i deulu fel un fi? Ddim o gwbl.”

Gwasgu’ am wybodaeth

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn delio â phrif bibellau dŵr sydd wedi byrstio yn ardaloedd Efailwen a Chlunderwen yn Sir Benfro, a Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd adroddiadau am broblemau tebyg yn Lanyfferi a Chydweli yn Sir Gaerfyrddin hefyd, yn ogystal â Llandysul ac Aberteifi, ac mae sawl ysgol yng Ngheredigion wedi bod ar gau heddiw.

Mae’r Cynghorydd sy’n cynrychioli ward Llansanffraid ger Llanon yng Ngheredigion yn dweud bod diffyg cyfathrebu wedi bod yn broblem sylweddol ar hyn o bryd.

“Y peth gwaethaf yw’r diffyg cyfathrebu sydd wedi dod mas o Dŵr Cymru yn dweud beth sy’n digwydd,” meddai’r Cynghorydd Plaid Cymru, Keith Henson.

“Fel cynghorydd fi wedi bod yn gwasgu arnyn nhw am wybodaeth ac i drio cael mannau casglu dŵr mwy lleol.”

Ar hyn o bryd mae mannau casglu dŵr yng Nghastell Newydd Emlyn a Llandysul.

“Mae hynny’n iawn i bobol sydd yn gallu mynd yn y car ac yn y blaen, ond i bobol o’r ardal hyn, byddai fe’n cymryd awr i fynd lawr ac awr i fynd yn ôl o ran teithio.

“Mae’n rhaid jest cadw i wthio nhw.

“Mae eisiau sicrhau fod pobol fregus yn cael dŵr priodol.

“Dŵr Cymru sydd fod i gyflenwi dŵr i dai pobol.

“Rydyn ni gyd yn talu biliau dŵr ac mae eisiau sicrhau eu bod nhw’n gallu ei gyflenwi fe’n briodol.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Dŵr Cymru am ymateb.