Mae gwerth y nwyddau mae busnesau Cymru yn eu hallforio wedi adfer i lefelau uwch na chyn y pandemig.
Ar gyfer y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Medi 2022, allforiwyd cyfanswm o £19.4bn, oedd yn gynnydd o fwy na thraean o gymharu â’r deuddeg mis blaenorol.
Roedd hynny £1.7bn yn uwch na’r flwyddyn ddaeth i ben ym mis Medi 2019 hefyd, meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ysbrydoli busnesau i allforio, teithiau masnach ac arddangosfeydd rhyngwladol ar draws Gogledd America, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia, a chymorth ar-lein i helpu cwmnïau i allforio nwyddau wedi helpu’r sefyllfa.
‘Cymaint i’w gynnig i’r byd’
Mae problemau byd-eang wedi cael effaith sylweddol ar allforwyr Cymru sydd eisoes yn ymdrin â’r problemau a ddaeth o ganlyniad i’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a phandemig Covid, yn ôl Vaughan Gething.
“Er hyn, rydyn ni’n parhau i gyflawni ein Cynllun Gweithredu uchelgeisiol ar Allforio, fel rhan o’n Rhaglen Lywodraethu, ac mae’r ffaith bod gwerth allforion Cymru bellach yn uwch na chyn pandemig y coronafeirws yn dangos cryfder ein busnesau allforio,” meddai.
“Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i’r byd, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’n hecosystemau cymorth allforio i helpu busnesau yng Nghymru i ddatblygu eu masnach ryngwladol ac i adeiladau ar y sylfaen gadarn sydd wedi cael ei hadeiladu dros y 12 mis diwethaf.
“Gall allforio fod yn llwybr i ddyfodol ffyniannus i Gymru, ond nid oes modd rhagweld y sefyllfa o ran masnachu byd-eang, ac mae ein heconomi yn parhau i fod yn y broses adfer.
“Mae angen inni allu adweithio ac ymateb i amodau byd-eang, er mwyn diwallu orau anghenion busnesau sydd ar daith i lwyddiant allforio.”
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i’w huchelgais i ysgogi rhagor o dwf yn sector allforio Cymru, yn enwedig gan fod gwerth nwyddau sy’n cael eu hallforio o Gymru yn is nag y byddent wedi bod oni bai am yr heriau sylweddol sy’n effeithio ar fasnach, ychwanega.