Mae adroddiad newydd gan Drysorlys Seland Newydd wedi mynegi rhai pryderon hirdymor am y Māori, ond ychydig iawn o bolisïau sydd wedi’u cynnig i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae’r adroddiad Trends in Māori Wellbeing yn dweud bod cysylltiad annatod rhwng lles y Māori a’r amgylchfyd, a bod colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd yn cyfrannu at golli ffordd o fyw a hunaniaeth y Māori.

Serch hynny, mae’r awduron Chelsey Reid a Phil Evans wedi nodi nifer o batrymau positif, gan gynnwys y ffaith fod y gymuned hon o bobol yn ennill cymwysterau’n gynt nag unrhyw grŵp ethnig arall yn Seland Newydd, a bod cyfran uwch o’r Māori mewn swyddi sgiliau uwch nag o’r blaen.

Mae llai o dlodi hefyd ymhlith teuluoedd a phlant.

Ond tra bod y sefyllfa’n gwella i’r Māori, mae bwlch o hyd rhyngddyn nhw a phobloedd eraill yn Seland Newydd.

Ymhlith y meysydd sy’n dal i fod yn destun pryder, meddai’r adroddiad, mae incwm, caledi ariannol, iechyd a thai.