Mae 32 o bobol wedi cael eu harestio fel rhan o ymgais i atal pobol rhag gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn Aberystwyth.

Cafodd profion eu cynnal ar ymyl y ffordd gan ddefnyddio offer arbennig.

Mae 86 o bobol wedi cael eu stopio yn ystod y cyrchoedd, ac mae’r heddlu wedi meddiannu gwerth £1,000 o gyffuriau – gan gynnwys canabis a chocên.

Cafwyd hyd i fwyell a beic modur oedd wedi’i ddwyn hefyd.

Fe fu’r arbrawf ar y gweill gan Heddlu Dyfed-Powys am ddeufis, gyda phlismyn yn derbyn cit i gynnal profion wrth iddyn nhw ymateb i wrthdrawiadau a chyrchoedd atal cerbydau ar sail cudd-wybodaeth.

Unedau plismona’r ffyrdd sydd wedi bod yn defnyddio’r offer yn ystod yr arbrawf, ond bydd mwy o blismyn yn derbyn cit er mwyn cynnal rhagor o brofion.

Hyd yn hyn, mae 25 o yrwyr wedi’u harestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau, a phump am yfed a gyrru, tra bod dau arall wedi’u harestio – un ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, ac un arall ar amheuaeth o fod â chysylltiadau â chylch troseddol yn Llundain.

Mae’r heddlu wedi mynegi pryder am nifer y bobol gafodd eu harestio, gan ddweud eu bod nhw’n “gweithio’n galed” i fynd i’r afael â’r sefyllfa.