Lucy Reynolds yw Prif Swyddog Gweithredol newydd Chwarae Teg, yr elusen cydraddoldeb, gan olynu Cerys Furlong ar ôl iddi adael ei swydd yn ddiweddar.

Bydd hi’n dechrau yn ei swydd newydd ar Chwefror 27.

Roedd Cerys Furlong wedi bod yn y swydd am chwe blynedd.

Cyn cael ei phenodi, bu Lucy Reynolds yn arwain y sefydliad camdrin domestig Thrive Women’s Aid, ac mae hi’n adnabyddus am ei sgiliau masnachol wedi iddi ddatblygu braich fasnachu lwyddiannus, sef Thrive Group Wales.

Nod Chwarae Teg yw canfod y rhwystrau sy’n wynebu menywod yn yr economi a mynd i’r afael â nhw, gan arwain at Gymru decach lle gall pob menyw gyflawni a ffynnu.

Bydd y mudiad yn parhau o dan arweiniad Lucy Reynolds i gefnogi merched drwy gryfhau partneriaethau a sefydlu perthnasoedd newydd.

“Rydw i’n falch iawn o fod yn ymuno â Chwarae Teg fel Prif Weithredwr yn y flwyddyn newydd,” meddai Lucy Reynolds.

“Rwy’n angerddol dros sicrhau cydraddoldeb rhywedd a gyrru’r newid strwythurol a systemig sydd ei angen i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb.

“Mae gan Chwarae Teg enw ardderchog am gyflawni newid a sicrhau effaith drwy ei waith arloesol.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r momentwm hwn.”

‘Angerdd ac egni go iawn dros ein cenhadaeth’

“Rwy’n falch iawn bod Lucy Reynolds yn ymuno â’r tîm Chwarae Teg fel Prif Weithredwr,” meddai Sharon Williams, cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Chwarae Teg.

“Mae gan Lucy angerdd ac egni go iawn dros ein cenhadaeth ac mae ganddi gyfoeth o brofiad.

“Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Liz Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Chwarae Teg, a fydd yn parhau i gyflawni rôl y Prif Weithredwr dros dro.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Lucy, y staff, a’n hymddiriedolwyr wrth iddynt barhau i ddatblygu a thyfu’r prosiectau arloesol y mae Chwarae Teg yn eu cyflwyno i gefnogi menywod.”