Ymrwymiad i ddiogelu cleifion sydd wedi gorfodi nyrsys i fynd ar streic, yn ôl un sydd wedi bod yn streicio heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 20).
Mae cannoedd o nyrsys ar draws y wlad, sy’n aelodau o Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, yn streicio am yr eilwaith mewn wythnos dros dâl ac amodau gwaith gwell.
Yn ôl un nyrs sydd newydd gymhwyso bum mis yn ôl ac sy’n gweithio yng Ngwynedd, nid y cyflog ydy’r prif fater yn yr anghydfod, ond diogelwch cleifion.
Gyda’r streiciau yn digwydd ym mhob bwrdd iechyd ond un yng Nghymru, mae nifer o driniaethau ac apwyntiadau oedd wedi’u trefnu ymlaen llaw wedi cael eu gohirio’r wythnos hon.
Mae gwasanaethau fel cemotherapi a dialysis, ac unedau gofal dwys dal yn gweithredu yn ôl eu harfer.
“Mi oedd nyrsio yn dream job i mi ers oeddwn i’n ddeg oed, erioed wedi dychmygu gwneud unrhyw swydd arall,” meddai’r nyrs, sydd eisiau aros yn ddienw, wrth golwg360.
“Roedd o’n golygu mynd i’r brifysgol am dair blynedd a hanner a gweithio 2,300 o oriau o waith placement yn ganol y pandemig yn ddi-dâl, ar ben gwneud gradd efo arholiadau ac asesiadau.
“Tydy hyn ar ben ei hun ddim yn apelio at eraill i ddechrau hyfforddiant i wneud y swydd.
“Cafodd y cais i gael apprentice wage ei anwybyddu hyd yn oed.
“Tydy pobol methu fforddio gweithio oriau llawn amser heb dâl, sy’n arwain at nifer yn darfod y cwrs cyn gorffen y radd. Dyna ti’n galw dream job?
“Os wyt ti yn llwyddo i raddio, cewch dâl o £13 yr awr, £13 yr awr am gael y cyfrifoldeb dros fywydau pobol yn ein dwylo.”
‘Swyddi â llai o gyfrifoldebau yn talu’n well’
Mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu’r sefyllfa, meddai’r nyrs, gyda sawl un yn cael trafferth cadw tŷ a chefnogi eu teuluoedd.
“Ti’n gweld sut bod y swydd ddim yn appealing i’w wneud, sy’n arwain at y prinder mewn staff, ac mae’r cwestiwn yn codi, ydy ein cleifion yn saff?” meddai wedyn.
“Gyda’r llwyth gwaith yn codi, a’r cyflog yn gostwng, mae bob un nyrs yn burnt out, gyda llwyth yn gadael y swydd gyda stress.
“Ar ddiwedd y dydd, mae yna ddigon o swyddi sy’n talu’n well a ddim efo hanner y cyfrifoldebau.
“Tydy nyrsys erioed wedi mynd ar streic dros gan mlynedd o wasanaeth.
“Tydy hyn ddim yn dangos yr ymrwymiad sydd gennym ni at ein cleifion?
“Ond yr ymrwymiad yna sydd wedi ein gorfodi i fynd ar streic, dydy o ddim am y cyflog, ein canolbwynt yw diogelwch cleifion.”
‘Digon yw digon’
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog rhwng 4% a 5.5% i staff y Gwasanaeth Iechyd, ond mae nyrsys yn gofyn am gynnydd o 19%, ac mae cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i wella cyflog presennol nyrsys ac i gyfarfod â chynrychiolwyr o’r undeb er mwyn datrys yr anghydfod.
“Does yna ddim dianc i staff ar y funud, poeni ac euogrwydd dros eu cleifion yn y gwaith, poeni ac euogrwydd dros eu teuluoedd adref,” meddai Helen Whyley.
“Dydy hyn ddim yn gynaliadwy.
“Mae’r neges yn glir ac yn uchel. Digon yw digon.
“Mae hi’n amser gweithredu yn erbyn yr argyfwng yn y gweithlu sy’n rhoi bywydau cleifion mewn perygl, ac sydd ddim yn poeni am lesiant staff nyrsio.”
‘Dewis olaf’
Ar ôl ymuno â’r llinell biced y tu allan i Ysbyty Gwynedd heddiw, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru bod gweithwyr iechyd a gofal wedi “colli ffydd” yn Llywodraeth Llafur Cymru i reoli’r Gwasanaeth Iechyd.
“Os ydyn ni wir am fynd i’r afael â’r materion cronig sy’n niweidio’r Gwasanaeth Iechyd – rhestrau aros hir, pwysau ar weithwyr iechyd a gofal a’r rhestrau aros ar gyfer triniaethau a diagnosis – rhaid adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal mwy cadarn a gwydn, gan ddechrau gyda chefnogi’n gweithlu,” meddai Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.
“Dydy’r streiciau hyn ddim yn edrych ar gyflog yn unig.
“Mae ein staff iechyd a gofal yn cael eu gorweithio, does ganddyn nhw ddim digon o adnoddau.
“Y streiciau yw’r dewis olaf ar gyfer Gwasanaeth Iechyd sydd ar ei gliniau.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pob grym sydd ganddyn nhw i wella’r codiad cyflog a gwella amodau gwaith. Heb weithwyr, does yna ddim Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
‘Cydnabod teimladau cryf’
Wrth drafod y streic yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, y dylai holl weithwyr y sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo’n deg.
“Rydyn ni’n cydnabod teimladau cryf staff, ac mae’r penderfyniad anodd i bleidleisio dros weithredu diwydiannol yn adlewyrchu hynny.
“Byddwn yn parhau i gydweithio i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a’r llywodraeth ynghyd i sicrhau’r canlyniadau gorau posib i weithwyr gyda’r cyllid sydd ar gael gennym.”