Dydy hi ddim yn syndod clywed bod bwrdd iechyd y gogledd mewn trafferthion eto, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi “digwyddiad mewnol difrifol” oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Yn sgil hynny, mae pob triniaeth ar wahân i’r rhai mwyaf brys wedi cael eu gohirio a dywed y bwrdd fod y galw ar draws y system wedi bod yn “ddigynsail” dros y dyddiau diwethaf.

Feirysau’r gaeaf, rhieni’n ceisio cael cymorth oherwydd pryderon am Strep A, ac anafiadau o ganlyniad i’r tywydd oer sy’n gyfrifol am y cynnydd mewn galw, yn ôl y bwrdd iechyd.

‘Hen stori’

Er ei bod y cyhoeddiad yn siom, dydy hi ddim yn syndod eu bod nhw’n methu ymdopi, meddai llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae hi, yn anffodus, yn hen stori i staff a chleifion yr ardal sydd wedi cael eu gadael lawr gan y ffordd mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cael ei rhedeg yno gan y Llywodraeth Llafur ym Mae Caerdydd,” meddai Russell George.

“Rydyn ni angen clywed ar frys gan Weinidog Iechyd Llafur er mwyn gwybod beth yw’r cynllun, yn enwedig gyda mwy o streiciau gan nyrsys a gweithwyr ambiwlans yn digwydd yn fuan – rhaid i gleifion gael hyder eu bod nhw’n gallu cael mynediad at y gofal iechyd diogel mae eu trethi nhw’n mynd tuag ato.

“Pan rydyn ni’n gweld mai’r broblem yw prinder gwelyau, mae’n brathu’n waeth o wybod bod Llafur wedi cwtogi nifer gwelyau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan draean ers datganoli ac wedi aros mor hir i fynd i’r afael â’r ffaith bod gwelyau’n cael eu llenwi gan bobol iach sy’n sownd yn yr ysbyty oherwydd nad ydyn nhw’n gallu cael eu rhyddhau i unman diogel.

“Dw i wir ofn ei bod hi’n bosib bod 2022 wedi bod yn flwyddyn ofnadwy i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru – gyda rhestrau aros am driniaethau, amseroedd aros mewn adrannau brys ac amseroedd ymateb ambiwlans i gyd yn cyrraedd eu cyfraddau gwaethaf ar record dros y deuddeg mis diwethaf – ond, o dan Llafur, all pethau ond gwaethygu.”

‘Mwy a mwy pryderus’

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod y sefyllfa “anghynaladwy” yn y Gwasanaeth Iechyd yn mynd yn fwy a mwy pryderus.

“Mae staff a chleifion yn dioddef wrth i anghynaliadwyedd ein gwasanaethau iechyd a gofal waethygu bob diwrnod,” meddai Aelod o’r Senedd Ynys Môn.

‘Galw sylweddol, estynedig’

Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae’r galw cynyddol wedi arwain at “oedi sylweddol” i weld cleifion, yn enwedig mewn adrannau brys.

Bydd streiciau nyrsys fory (Rhagfyr 20) a gweithwyr y Gwasanaeth Ambiwlans ddydd Mercher (Rhagfyr 21) yn cyfyngu ymhellach ar allu’r bwrdd, meddai.

“Mae diffyg gwelyau rhydd yn ein hysbytai yn arwain at oedi digynsail ar ambiwlansys ar draws y bwrdd iechyd ac rydyn ni’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn cefnogi cleifion sy’n ddigon iach i adael ysbytai,” meddai’r datganiad.

“Mae pwysau tebyg yn cael ei brofi mewn byrddau iechyd eraill ac ymddiriedolaethau yn Lloegr.

“Y bore yma, rydyn ni wedi cyhoeddi digwyddiad mewnol difrifol, sy’n golygu ein bod ni’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r galw sylweddol, estynedig ar y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.”

Wrth baratoi ar gyfer rhagor o streiciau, dywedodd y bwrdd eu bod nhw’n
sut i barhau i gynnal gwasanaethau brys dros y diwrnodau nesaf.

“Mae trafodaethau gydag undebau yn parhau er mwyn sicrhau bod niferoedd digonol o staff â chymwysterau priodol ar gael mewn mannau lle byddai’r methiant i ddarparu gwasanaethau’n arwain at berygl uniongyrchol i fywyd.

“Bydd staff sy’n gweithio yn y gwasanaethau hyn ond yn gallu mynd ar streic os oes digon o staff ar gael i sicrhau  bod cleifion yn ddiogel.”

‘Galw na welwyd ei debyg’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu “galw na welwyd ei debyg”.

“O ganlyniad, mae apwyntiadau heblaw rhai brys neu reolaidd yn debygol o gael eu gohirio.

“Bydd y byrddau iechyd yn rhoi gwybod i gleifion am unrhyw newidiadau a bydd apwyntiadau’n cael eu haildrefnu cyn gynted â phosib.

“Mae trefniadau ar waith i sicrhau y bydd lefel ddiogel o staffio bob amser, a bydd gofal achub bywyd a gofal cynnal bywyd yn parhau i gael eu darparu.”

Cynghorir unrhyw un sydd angen cymorth ar frys neu sydd â chyflwr sy’n peryglu ei fywyd i fynd i adrannau brys neu gysylltu â’r gwasanaethau brys, a dylai unrhyw un sydd â chyflwr nad yw’n peryglu ei fywyd ddefnyddio gwasanaeth digidol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru 111 yn y lle cyntaf, ychwanegodd.