Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr o Gymru wedi beirniadu dyfarniad yr Uchel Lys ynghylch y cynllun i yrru ceiswyr lloches i Rwanda.

Fe wnaeth y llys ddyfarnu heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 19) fod y cynllun yn un cyfreithiol, er bod ymgyrchwyr ac elusennau wedi dadlau nad ydy Rwanda yn lleoliad diogel.

Fodd bynnag, bydd rhaid ailystyried achosion yr wyth ceisiwr lloches oedd i fod i gael eu gyrru i Rwanda’n gynharach eleni, meddai’r Uchel Lys.

Wrth ymateb, dywed elusennau ac aelodau seneddol fod heddiw’n “ddiwrnod tywyll i hawliau dynol”.

‘Moesol ffiaidd’

Er bod cynllun y Deyrnas Unedig i yrru ceiswyr lloches i Rwanda yn gyfreithlon, mae’n “foesol ffiaidd”, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar Twitter.

Wrth ymateb i’r dyfarniad, dywedodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, na fyddai’r un llywodraeth gyfrifol yn gosod “eu cyfrifoldebau rhyngwladol ar wlad dlawd gyda mesurau diogelu hawliau dynol gwan”.

“Creu llwybrau diogel i geiswyr lloches yw’r unig ffordd i stopio marwolaethau ar y sianel,” meddai.

‘Diwrnod tywyll i hawliau dynol’

Cafodd y polisi ei gyhoeddi gan lywodraeth Boris Johnson ym mis Ebrill, ond ni chyrhaeddodd yr awyrennau cyntaf Rwanda ar ôl Llys Hawliau Dynol Ewrop ymyrryd.

Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi ceisio parhau â’r polisi, gyda gweinidogion yn dadlau y byddai’n atal pobol rhag cyrraedd y Deyrnas Unedig ar gychod bychain.

Ond mae heddiw’n “ddiwrnod tywyll i hawliau dynol yn y Deyrnas Unedig”, yn ôl Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon.

“Efallai bod y cynllun Rwanda wedi cael ei ddyfarnu’n un cyfreithlon gan yr Uchel Lys, ond dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn foesol gywir,” meddai.

“Byddai Llywodraeth wâr yn canolbwyntio ar lwybrau diogel cyfreithiol i’r Deyrnas Unedig, nid demoneiddio ac alltudio.”

‘Byw mewn ofn alltudiaeth’

Wrth gondemnio’r cynlluniau, dywed Cyngor Ffoaduriaid Cymru fod y dyfarniad yn “newyddion cwbl ddychrynllyd”.

“Diwrnod tywyll i hawliau dynol y Deyrnas Unedig,” meddai’r mudiad.

“Mae ein cleientiaid yn byw mewn ofn tragwyddol o gael eu halltudio i wlad sydd â hanes amheus wrth drin hawliau dynol.

“Dyma gynllun arall sydd heb gael ei ystyried yn iawn gan yr Ysgrifennydd Cartref, sy’n chwarae politics gyda bywydau’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth.”