Mae awdurdodau lleol ledled Cymru’n rhoi dwsinau o blant mewn sefydliadau gofal “sydd ddim yn cael eu rheoleiddio”, yn ôl ystadegau sydd wedi cael eu rhannu â’r Ceidwadwyr Cymreig.
Yn ôl yr ystadegau, mae o leiaf 39 o blant wedi cael eu rhoi mewn sefydliadau o’r fath, er bod hynny’n anghyfreithlon.
Diffyg capasiti yn yr ardal sy’n gyfrifol am hynny gan amlaf, yn ôl y blaid.
Mae sefydliadau “sydd ddim yn cael eu rheoleiddio” yn cyfeirio at lefydd sydd heb gael eu cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae’r arfer yn erbyn y gyfraith ers 2016.
‘Annerbyniol’
“Er fy mod i’n deall bod cynghorau’n cael eu gorfodi i wneud hyn yn sgil diffyg capasiti a bod rhai mesurau diogelu mewn grym, mae’n gwbl annerbyniol bod awdurdodau lleol yn torri’r gyfraith,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Os oedd yna beryg bod hyn am ddigwydd, yna pam wnaeth y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd gynnig cyfraith sy’n rhoi cynghorau mewn safle lle maen nhw’n torri’r gyfraith?
“Does gan gynghorau ddim y gallu i gadw rhai o blant mwyaf agored i niwed cymdeithas yn rhan iawn y system, ac mae hynny’n gwaethygu’n sgil prinder staff difrifol mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol, rhywbeth rydyn ni’n gwybod sy’n arwain at oblygiadau andwyol – yn wir, cafodd ei grybwyll fel problem yn yr adroddiad am y ffordd y cafodd marwolaeth Logan Mwangi ei thrin.
“Dylai gweinidogion Llafur sicrhau bod y swm bychan o gyllid sydd ei hangen i sicrhau nad oes yna’r un plentyn yn cael ei osod mewn sefydliad anghofrestredig ar gael i gynghorau, cyflymu’r broses o gofrestru sefydliadau newydd, ac adolygu a gwella ymgyrchoedd i recriwtio mwy o ofalwyr maeth.”
Sefydliadau gofal anghofrestredig ydy’r dewis olaf i gynghorau, ac mae’n rhaid iddyn nhw fynd drwy sawl cam i ddangos nad yw rhoi plentyn yno am ei niweidio.
Mae’n rhaid i gynghorau oruchwylio’r sefyllfa’n ofalus iawn hefyd.
Gwynedd, Caerffili, Blaenau Gwent a Bro Morgannwg oedd yr unig awdurdodau lleol heb unrhyw blant mewn sefydliadau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio.
Gwrthododd cynghorau Caerdydd ac Abertawe ateb cais y Ceidwadwyr Cymreig am ystadegau, a doedd dim ateb gan gynghorau Powys a Wrecsam o gwbl.
Eithriadau mewn argyfwng
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mewn argyfwng, gallai fod gofyn defnyddio lleoliad sydd heb ei gofrestru er mwyn darparu’r math cywir o ofal a chefnogaeth i berson ifanc pan nad oes lleoliad arall ar gael.
“Mae awdurdodau lleol yn sicrhau bod pob darparwr yn cael ei fetio a’i gymeradwyo yn unol â’r safonau angenrheidiol ac, os bydd y lleoliad yn dod yn opsiwn tymor hirach i’r person ifanc, bydd yr awdurdod lleol yn cymryd camau i sicrhau bod lleoliadau o’r fath yn cael eu cofrestru’n briodol.
“Trwy ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i newidiadau radical mewn gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal.
“Fel rhan o’r uchelgais hon, byddwn yn cael gwared ar wneud elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, yn cryfhau’r cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ac yn ariannu gwasanaethau eiriolaeth i rieni ledled Cymru.
“Gyda’i gilydd, bydd yr ymrwymiadau hyn yn trawsnewid Gwasanaethau Plant fel eu bod yn gallu darparu’r gefnogaeth a’r amddiffyniad gorau i blant agored i niwed yng Nghymru.