Mae adroddiad yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â “phroblemau dwfn” o fewn bwrdd arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Rhybuddia Archwilydd Cyffredinol Cymru nad yw arweinyddiaeth y bwrdd iechyd yn gweithredu’n effeithiol.
Mae adroddiad Adrian Compton yn cwestiynu gallu arweinyddiaeth y bwrdd iechyd – sydd heb brif weithredwr parhaol ar hyn o bryd – i “fynd i’r afael â nifer o heriau y mae’r sefydliad yn eu hwynebu”.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod aelodau annibynnol o’r bwrdd yn colli hyder yn y tîm gweithredol.
Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar frys er mwyn ceisio adfer y sefyllfa.
‘Problemau dwfn’
“Mae’r canfyddiadau o’m hadolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn peri pryder eithriadol,” meddai Adrian Compton.
“Mae’n eglur bod rhai problemau dwfn gyda chysylltiadau gwaith o fewn y bwrdd.
“Mae angen datrys y problemau hyn fel mater o frys i roi hyder i’r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach bod gan y Bwrdd Iechyd yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arno i fynd i’r afael yn effeithiol â’r heriau sylweddol y mae’n eu hwynebu, ac i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i bobl gogledd Cymru.
“Mae’n amheus a all y bwrdd Iechyd wneud y gwelliannau angenrheidiol heb ymyriad allanol a bydd angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrryd presennol i gefnogi’r gwelliannau brys sy’n angenrheidiol.”
‘Pryderon a’r rhwystredigaethau’
Mae’r adroddiad yn dweud bod:
- “Holltau o fewn y Tîm Gweithredol yn gwbl eglur i Aelodau Annibynnol ar y bwrdd, sy’n codi pryder am allu’r Tîm Gweithredol i gymryd gafael cyfunol o’r heriau dan sylw. Ar y llaw arall, nodwyd cydlyniant mwy amlwg gennym o fewn y corff o Aelodau Annibynnol ar y bwrdd.”
- “Pryderon a’r rhwystredigaethau a gafwyd gan Aelodau Annibynnol wedi arwain at rywfaint o graffu cyhoeddus heriol iawn ar Gyfarwyddwyr Gweithredol gan Aelodau Annibynnol. Er bod rhai yn ystyried her o’r fath yn angenrheidiol, i eraill mae’n cynrychioli cam anghynorthwyol tuag at ddiwylliant bwrdd gelyniaethus a holgar â ‘chodi cywilydd cyhoeddus’ ar unigolion mewn cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor.”
- “O ganlyniad i’r datgeliadau a wnaed o ran diwylliant ac ymddygiad, mae rhai Aelodau Annibynnol wedi’n hysbysu eu bod bellach yn teimlo’n wyliadwrus iawn o herio perfformiad gwael oherwydd y canlyniadau a allai ddilyn.”
- “O ystyried maint y problemau, mae’n ddealladwy bod sawl aelod o’r bwrdd a gyfwelwyd gennym yn dangos arwyddion amlwg o drallod emosiynol, gan beri pryder i ni ynghylch eu llesiant. Mae angen cymryd camau brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon.”
Betsi Cadwaladr “yn methu gwasanaethu pobol gogledd Cymru’n effeithiol”
Wrth ymateb, dywed Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal cymdeithasol ac Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ym Môn, na all y bwrdd iechyd “wasanaethu pobol gogledd Cymru’n effeithiol”.
Pan gafodd y bwrdd iechyd ei dynnu allan o fesurau arbennig fis Tachwedd 2020, dywedodd Plaid Cymru fod y penderfyniad wedi cael ei wneud yn rhy gynnar.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’r adroddiad diweddaraf yn codi “cwestiynau sylfaenol” am Betsi Cadwaladr ac mae angen “dechrau o’r newydd”.
“Mae hwn yn adroddiad beirniadol iawn sy’n codi cwestiynau sylfaenol pellach am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,” meddai.
“Mae cwestiynau ynghylch strwythurau ac arweinyddiaeth y bwrdd wedi niwieidio’r bwrdd iechyd hwn ers nifer o flynyddoedd, ar ôl bod yn destun mesurau arbennig am gynifer o flynyddoedd o’i fodolaeth.
“Unwaith eto, dw i’n pwysleisio fy mod i’n dod i’r casgliad nad ydw i’n credu y gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei ffurf bresennol wasanaethu pobol gogledd Cymru’n effeithiol.
“Mae angen dechrau o’r newydd arnom.”