Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lambastio cytundebau masnach Llywodraeth y Deyrnas Unedig gydag Awstralia a Seland Newydd, yn sgil cynnydd mewn mewnforion, tra bod prisiau cig oen yn gostwng.
Yn ôl ffigyrau masnach y Deyrnas Unedig, roedd cynnydd o 17% yn y mewnforion cig oen yn ystod Medi a Thachwedd y llynedd, tra bod prisiau prif gig oen wedi gostwng £0.90/kg o flwyddyn i flwyddyn.
Maen nhw bellach yn is na’r cyfartaledd pum mlynedd, er gwaethaf marchnadoedd cig oen bywiog yn ystod y pandemig.
Pan gafodd cytundebau masnach gydag Awstralia a Seland Newydd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021 a Chwefror y llynedd, rhybuddiodd ffermwyr y byddai telerau’r cytundeb yn sbarduno cynnydd mawr mewn mewnforion cig eidion a chig oen di-dariff.
Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, gallai’r cytundeb arwain at fewnforion cig eidion heb dariff o Seland Newydd yn codi i 12,000 tunnell, gan gynyddu i 38,820 tunnell ymhen deng mlynedd.
Yn yr un modd, byddai mewnforion di-dariff yn y farchnad cig oen yn cynyddu 35,000 tunnell y flwyddyn ym mlynyddoedd un i bedwar, yna o 50,000 tunnell y flwyddyn ym mlynyddoedd pump i bymtheg.
Byddai cynnydd pellach yn digwydd yn y pum mlynedd dilynol, ac ar ôl hynny ni fyddai terfyn.
‘Chwerthinllyd’
“Roedd gweinidogion, aelodau seneddol ac Arglwyddi a oedd yn gefnogol o agwedd ryddfrydol Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at drafodaethau masnach gyda Seland Newydd ac Awstralia yn dadlau ar y pryd na ddylai’r diwydiant defaid Cymreig fod yn bryderus, gan fod y gwledydd hynny yn llawer is na’r terfynau cwota mewnforio presennol ac roedd hyn yn annhebygol o newid,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
“Fe wnaethon ni rybuddio bryd hynny bod hwn yn safbwynt naïf neu fwriadol gamarweiniol a fethodd ag ystyried sut y gallai marchnadoedd byd-eang, cyfraddau cyfnewid a ffactorau eraill newid yn gyflym, gan arwain at gynnydd mewn cyfeintiau mewnforio sy’n cael effaith negyddol ar farchnadoedd y Deyrnas Unedig.
“Rydym bellach dan glo i gytundebau masnach gyda Seland Newydd ac Awstralia a fydd yn diddymu terfynau mewnforio ar gyfer cynhyrchion Cymreig allweddol yn gyfan gwbl, gydag ychydig o fesurau diogelu i’n cynhyrchwyr ein hunain.
“Mae’r cytundebau hyn yn cael eu hystyried yn chwerthinllyd gan wledydd eraill o ystyried y buddion bach fanno mae ffigyrau’r Llywodraeth ei hun yn dangos eu bod yn debygol o ddod ag economi’r Deyrnas Unedig.”