Mae tiwtor Cymraeg sydd hefyd yn arddwr brwd yn dweud bod garddio’n ffordd dda o gymdeithasu a dysgu’r iaith.

Bydd Adam Jones, neu ‘Adam yn yr Ardd’ ar Twitter, yn cynnal grŵp garddio trwy gyfrwng y Gymraeg yng ngardd gymunedol Naturewise yn Aberteifi ddydd Sul (Chwefror 26).

Cafodd ei fagu mewn teulu a chymuned o arddwyr brwd, ac fe ddysgodd e lawer ganddyn nhw am y maes.

Cafodd ei annog i ddilyn llwybr gyrfa academaidd, ond oherwydd ei fod yn caru pob elfen o arddio gymaint ac ar ôl dysgu sgiliau gwerthfawr, newidiodd ei yrfa a rhoi cynnig ar ddysgu garddio.

“Rwyf wedi bod yn garddio ers cyn cof,” meddai wrth golwg360.

“Pan oeddwn yn ddwy neu dair, roedd fy nhad-cu a fy mam-gu yn garddio.

“Roeddwn yn aml yn blentyn bach yn ffeindio fy hun yn eu gerddi nhw, yn crwydro ar hyd yr ardd, yn bwyta’u llysiau nhw heb bo nhw’n gwybod, a malwod hefyd mae’n siŵr!

“Roedd fy nhad-cu yn coelio’n gryf mewn tyfu bwyd, roedd yn fab ffarm.

“Ar y stryd lle roedden nhw’n byw, yn y tai cyngor, roedd gennym ardd fach ond roedd pawb yn tyfu rhywbeth ac roedden ni’n rhannu.

“Roedd gymaint o gymdogion gyda ni, rwyt ti’n sôn am tua ugain i gyd.

“Roedd drws nesaf yn tyfu bresych.”

‘Dysgu’r Gymraeg yn naturiol’

A’r tiwtor Cymraeg yn arddwr brwd sy’n gweithio yn y maes, mae’n dweud bod dysgu Cymraeg yn bwysig, a bod garddio’n ffordd effeithiol o ddysgu’r iaith gan fod y bobol yn “dysgu’r Gymraeg yn naturiol”.

“Beth rydym yn ceisio gwneud yw dangos bod angen i bobol sy’n symud mewn neu symud i ardaloedd i ddatblygu busnesau gofio a chydnabod bod y Gymraeg yn rhan bwysig o’r gymuned honno,” meddai wrth golwg360.

Bydd y grŵp garddio yn cael ei chynnal rhwng 11yb a 3yh, ac yn agored i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg wrth arddio.

Nid yn unig mae garddio yn ffordd effeithiol o ddysgu Cymraeg, yn ôl Adam Jones, ond mae’n ffordd i bobol sy’n dioddef o ynysigedd ac unigrwydd gymdeithasu wrth wneud rhywbeth maen nhw’n ei garu.

Mae Adam Jones am annog unrhyw un sy’n teimlo fel pe baen nhw wedi cael eu hysbrydoli i arddio i’w drio.

“I unrhyw un sy’n ystyried garddio, peidiwch fod ofn tri,” meddai.

“Rhowch gynnig arni, cewch eich synnu.

“Dechrau ar raddfa fach, mewn potyn bach ar y drws ac ehangu fesul blwyddyn, a chyn bo hir byddwch chi’n arddwyr hefyd ac yn mwynhau popeth da sy’n gallu dod o’r ardd.”

Grŵp garddio Cymraeg

Trwy arddio, bydd y grŵp yn cynnig cyfle i athrawon Cymraeg a dysgwyr gyfathrebu â’i gilydd gan ddefnyddio tafodiaith a thermau garddio yn naturiol, ar lafar.

Yn ôl Adam Jones, mae nifer o bobol yn symud i Gymru yn eithaf hwyr yn eu bywydau, ac mae’n bwysig eu bod nhw’n cael eu trwytho yn iaith gynhenid yr ardal.

Mae cyfleoedd ar gael i bobol sydd eisiau dysgu garddio drwy’r Gymraeg, ac mae Adam Jones wedi bod yn allweddol wrth gynnig opsiynau.

“Mae’n grŵp Cymraeg agored i ddysgwyr ac athrawon Cymraeg yn y dref i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddod yn rhan o’r prosiect natur neu arddio sydd ganddyn nhw,” meddai.

“Mae mewn perthynas â Menter Ceredigion.

“Y syniad yw ein bod ni am gael sgwrs gyffredinol am arddio a beth rydym yn gallu’i wneud yn yr ardd yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Hefyd, mynd ar daith o gwmpas y safle ac adnabod y planhigion a choed, y rhai sy’n tyfu yna, eu henwau Cymraeg a rhannu tafodiaith a pha eiriau maen nhw’n eu defnyddio.

“Mae yna lawer o bobol yn symud i Gymru yn eu pumdegau hwyr, chwedegau…

“Maen nhw’n prynu tyddyn bach, ac maen nhw eisiau’r good life.

“Mae’r ardaloedd hyn yn tueddu bod yn ardaloedd Cymraeg, ble mae’r Gymraeg angen pob cefnogaeth ar hyn o bryd oherwydd ei bod hi’n anodd cynnal y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn.

“Beth rydym yn ceisio’i wneud yw dangos bod angen i bobol sy’n symud mewn neu’n symud i ardaloedd i ddatblygu busnesau gofio, a chydnabod bod y Gymraeg yn rhan bwysig o’r gymuned honno.

“Rydym yn ceisio cynnig rhyw fath o gynnig i ddysgwyr i allu dysgu Cymraeg yn yr ardd, bod y Gymraeg yn gallu bod yn rhyw fath o dempled i ddysgu Cymraeg hefyd.

“Dydy e ddim yn rhywbeth dim ond ar gyfer y dosbarth.

“Ti’n siarad Cymraeg a phlannu rhywbeth.

“Mae rhywun yn gallu gweld efo’u llygaid nhw beth ti’n gwneud heb bo nhw’n ystyried.

“Maen nhw’n dysgu’r Gymraeg yn naturiol fel mae babi neu blentyn yn gwneud.

“Ti’n siarad â phlentyn ac maen nhw’n pigo iaith fyny trwy efelychu, trwy gopïo. Dyna’r syniad.”

‘Mae fel bod pobol wedi gafael yn yr ardd’

Ond pa mor llwyddiannus yw’r dull?

“Rwy’ wedi gweithio â sawl grŵp gwahanol yn gwneud hyn ac maen nhw i gyd wedi bod yn boblogaidd,” meddai wedyn.

“Creais gyfres ar YouTube, ‘Dysgu Cymraeg yn yr ardd’ ac roedd rheini’n boblogaidd iawn.

“Ym mis Mai, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn lansio pecyn Dysgu Cymraeg ar gyfer yr Ardd Fotaneg.

“Maen nhw wedi creu pecynnau iaith ar gyfer pob ardal.

“Os mae pobol yn mynd i ardal i atyniadau neu rywbeth, ac maen nhw’n dysgu Cymraeg, mae yna gyfle iddyn nhw ddefnyddio’r pecyn i ddod o hyd i wybodaeth am yr ardd a dysgu’r Gymraeg yr un pryd.

“Bydda i’n gweithio efo Menter Cymru yn yr Ardd Fotaneg, ble fydd y tiwtoriaid yn dod at ei gilydd efo dysgwyr a siaradwyr newydd.

“Byddan nhw’n mynd ar daith o gwmpas yr Ardd Fotaneg i ddysgu mwy am y planhigion sy’n byw yna, hanes yr Ardd, sut mae’r Ardd wedi datblygu a hynny i gyd trwy’r Gymraeg. Mae’n bositif.

“Mae fel bod pobol wedi gafael yn yr ardd, yn rhywle ble maen nhw’n hoffi dysgu Cymraeg.

“Os wyt ti’n hoffi coginio ac mae’r wers goginio yna hefyd yn wers mathemateg, ti ddim yn meddwl am y fathemateg oherwydd bo ti’n mwynhau’r coginio.

“Dyna’r syniad- rhoi’r cyfle i bobol ddysgu Cymraeg yn naturiol yn yr ardd.

“Mae’n eithaf chilled, ond ar yr un pryd rydym yn ceisio gwneud rhywbeth pwysig, sicrhau bod pobol yn dysgu Cymraeg a ddim yn anghofio’r iaith oherwydd bo nhw ddim yn gweld hi’n berthnasol iddyn nhw.”

Cymdeithasu a chreu cymuned

Yn ôl Adam Jones, mae bod â diddordeb mewn garddio yn helpu i greu cymuned yn rhithiol ac yn y gymdeithas, ac yn ffordd dda o gymdeithasu.

“Unwaith rwyt ti’n dod o hyd i rywbeth ti’n hoffi fel hobi, mae yna bobol eraill yn yr un cwch,” meddai.

“Mae yna bobol eraill sy’n hoffi’r un pethau.

“Rwy’ wedi cwrdd â llwyth ers sefydlu ‘Adam yn yr ardd’.

“Yn gyntaf, roedd ar y wê oherwydd mai dyna le roeddwn yn rhannu pethau.

“Yn raddol, ti’n dod i gwrdd â nhw go iawn, ddydd i ddydd.

“Ti’n dod yn ffrindiau â’r bobol hyn oherwydd rydych yn rhannu’r un diddordebau a dych chi’n rhannu’r un wybodaeth.

“Rydych yn bendant yn creu cymuned.

“Mae yna lawer o gymunedau a grwpiau garddio o fewn Cymru.

“Ti’n gallu mynd iddyn nhw, dim ots pa lefel wyt ti o ran garddio, a dod i adnabod pobol.

“Mae bendant yn gymdeithasol.

“Os wyt ti’n byw gartref, yn unig a does dim cymuned o dy amgylch, a ti eisiau dod yn rhan o ryw gymuned ar y wê, mae yna ddigon ohonyn nhw ar gael sy’n gallu troi mewn i gymunedau go iawn.

“Mae llawer o ddigwyddiadau fel sioeau, Gardeners’ Question Time, rhandiroedd.

“Mae’n gorfodi pobol i ddod at ei gilydd.

“Does gan lawer o bobol ddim gardd.

“Os maen nhw’n rhannu darn o dir i dyfu llysiau yng Nghymru mae gennyt y bobol a’r gymdogaeth.”