Mae yna berygl y bydd Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Dirymiad a Diwygiad) a Gadwyd yn tanseilio’r Senedd tra’n rhoi mwy o bwerau i weinidogion yn Llundain, yn ôl Huw Irranca-Davies, Aelod Llafur o’r Senedd.

Dywed cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad fod y Mesur yn rhoi gormod o rym yn nwylo gweinidogion, gan danseilio rôl y seneddau, gan gynnwys Senedd Cymru.

Cafodd Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Dirymu a Diwygio) a Gadwyd ei gyflwyno gan Jacob Rees-Mogg, y cyn-Weinidog Gwladol dros Gyfleoedd Brexit, gyda’r cyn-Brif Weinidog Liz Truss yn addo cyflawni’r gwaith erbyn Rhagfyr eleni.

Y bwriad, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yw ei gwneud hi’n haws i Senedd y Deyrnas Unedig ddiwygio a diddymu darnau o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd gafodd eu cadw ar ôl Brexit.

Fodd bynnag, mae’r sawl sy’n ei wrthwynebu’n disgrifio’r ddeddfwriaeth fel un ddi-bwrpas gan ychwanegu bod asesu miloedd o ddeddfwriaethau unigol erbyn Rhagfyr 31 yn dasg amhosibl.

‘Craffu’

Dywed Huw Irranca-Davies, cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, nad oes modd tanbrisio effaith y Mesur.

“Gydag amcangyfrif o 4,000 darn o ddeddfwriaeth ar ystod eang o feysydd pwysig yr effeithir arnynt, rhaid i’r Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig gael y cyfle i’w ystyried,” meddai.

“Ar ran pobol Cymru, swydd y Senedd yw dwyn y llywodraeth i gyfrif.

“Bydd y Bil hwn, os yw’n dod yn gyfraith, yn rhoi gormod o rym yn nwylo gweinidogion llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, heb graffu priodol gan y Senedd.

“Er mwyn i ni gael cyfraith dda yng Nghymru ar feysydd hanfodol fel yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, mae’n rhaid i ni gael goruchwyliaeth ac amser priodol i ystyried deddfwriaeth.

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi syniad clir i ni o’r hyn y byddai gweithredu Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Gadwyd yn ei olygu i amser y Llywodraeth a’r Senedd.”

Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Dirymiad a Diwygiad) a Gadwyd: “Prosiect trahaus Brexit sy’n cyflawni llawer o ddim”

Huw Bebb

“Does yna ddim rheswm da, hyd y gwelwn ni, dros gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon oni bai am fodloni ideoleg Brexitaidd”