Mae yna “achos rŵan i ddweud bod Ian Gwyn Hughes wedi gwneud fwy fyth” na’i daid Lewis Valentine dros y Gymraeg, yn ôl Geraint Lovgreen.

Bydd y canwr-gyfansoddwr yn holi Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar Fawrth 3 ar yr Oval yng Nghaernarfon, gan drafod ei waith efo tîm pêl-droed Cymru, ac mae’n “gobeithio y daw yna griw” i’r digwyddiad.

Mae diwylliant, yr iaith a’r gymuned yn bwysig i Ian Gwyn Hughes, ac mae wedi dangos hyn yng nghyd-destun pêl-droed Cymru.

“Mae o’n ddiddorol iawn o safbwynt pwy oedd ei daid o,” meddai Geraint Lovgreen wrth golwg360.

“Un o arwyr Cymru ar ôl llosgi Penyberth ac ymgyrchoedd dros y Gymraeg.

“Mae yna achos rŵan i ddweud bod Ian Gwyn Hughes wedi gwneud fwy fyth dros y Gymraeg efo’r ffordd mae o wedi Cymreigio tîm pêl-droed Cymru, ac mae’r holl bethau o gwmpas o mor Gymreig rŵan i gymharu efo beth oedd o ac i gymharu efo rygbi er enghraifft.”

“Profiad anhygoel” cael mynd i Qatar

Ag yntau wedi mynd i Qatar, roedd yn brofiad gwefreiddiol i Geraint Lovgreen weld tîm Cymru yn cystadlu er nad oedden nhw ar eu gorau.

“Roedd y ffaith bod ni wedi cyrraedd Cwpan y Byd yn ffantastig,” meddai.

“Roedd bod allan yna yn Qatar a gweld Cymru allan yna efo’r gwledydd eraill yn brofiad anhygoel.

“Wna’i fyth anghofio hynny.

“I mi, roedd y pêl-droed yn siomedig, doedd y chwaraewyr ddim cweit yn ffit.

“Mae’n biti na fysan ni wedi cyrraedd final Cwpan y Byd pedair blynedd yn ôl pan oedd y chwaraewyr yma i gyd ar eu gorau.

“Roedden nhw i gyd yn eu cyfnod olaf, ar eu ffordd i lawr.

“Ond roedd bod yno yn beth arbennig iawn.”

Colli chwaraewyr

Efo dau chwaraewr ardderchog yn gadael tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale a Joe Allen, dydy Geraint Lovgreen ddim yn hollol sicr a ydy’r chwaraewyr newydd ifainc am allu eu holynu.

“Mae’n mynd i fod yn gyfnod ychydig anoddach heb Joe Allen a Gareth Bale,” meddai.

“Rhywun fel Gareth Bale, ti ddim yn cael chwaraewr fel yna fel arfer, mae o ar lefel byd fel John Charles.

“Allwn ni ddim disgwyl cael yr un un math o lwyddiant.

“Mae Joe Allen yn mynd i fod yn golled enfawr arall, mae wedi bod yn un o chwaraewyr gorau Cymru ers blynyddoedd.

“Mae am fod yn golled ond rhaid i ni obeithio bod y criw ifanc yma sy’n dod fyny yn mynd i fedru gwneud cystal.

“Mae gennym lawer o chwaraewyr da ifainc, ond mae yna lawer o wahaniaeth rhwng chwaraewyr da a chwaraewyr safon byd.”

  • Bydd y sgwrs yn digwydd ar Fawrth 3 am 7.30yh yn yr Oval Caernarfon ac mae tocynnau yn £10 ac ar werth yn Na Nog a Palas Print.