Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi naw newid i’w dîm i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 25).

Bydd y canolwr 20 oed Mason Grady yn disodli George North i ennill ei gap cyntaf.

Daw’r newidiadau ar ôl i Gymru golli’r ddwy gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon a’r Alban.

Bydd Leigh Halfpenny a Louis Rees-Zammit yn chwarae yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf eleni, ar ôl gwella o anafiadau, gyda Halfpenny yn dechrau gêm am y tro cyntaf ers iddo ennill ei ganfed cap yn 2021.

Gyda Louis Rees-Zammit yn dychwelyd, does dim lle yn y garfan i Rio Dyer.

Bydd partneriaeth newydd ymhlith yr haneri, gydag Owen Williams yn safle’r maswr yn lle Dan Biggar i ddechrau gêm am y tro cyntaf, ochr yn ochr â’r mewnwr Tomos Williams. Bydd Biggar ar y fainc.

Gyda Mason Grady yn ennill ei gap cyntaf, mae George North yn cwympo i’r fainc i wneud lle i driawd di-brofiad – Owen Williams, Joe Hawkins a Mason Grady, sydd ond wedi ennill cyfanswm o saith cap rhyngddyn nhw.

Does dim lle ymhlith y blaenwyr na’r garfan i Wyn Jones na Jac Morgan, wrth i Justin Tipuric a Taulupe Faletau ddychwelyd i’r rheng ôl, gyda Gareth Thomas a Tomas Francis yn y rheng flaen a’r cyn-gapten Alun Wyn Jones yn yr ail reng.

Mae’r bachwr Bradley Roberts a’r blaenasgellwr Tommy Reffell ymhlith yr eilyddion, gyda’r mewnwr Kieran Hardy a’r canolwr Nick Tompkins ar y fainc ac yn aros i chwarae am y tro cyntaf eleni.

Tîm Cymru: L Halfpenny, J Adams, M Grady, J Hawkins, L Rees-Zammit, O Williams, T Williams; G Thomas, K Owens (capten), T Francis, A Beard, AW Jones, C Tshiunza, J Tipuric, T Faletau.

Eilyddion: B Roberts, R Carré, D Lewis, D Jenkins, T Reffell, K Hardy, D Biggar, N Tompkins.

 

Gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr am fynd yn ei blaen

Daw hyn yn dilyn cyfres o gyfarfodydd rhwng chwaraewyr a phenaethiaid Undeb Rygbi Cymru