Mae Clwb Pêl-droed Abertawe ymhlith y rhai cyntaf i dalu teyrnged i’r sylwebydd John Motson, sydd wedi marw’n 77 oed.

Yn ystod ei yrfa, fe wnaeth un o’r lleisiau mwyaf adnabyddus yn y byd darlledu chwaraeon, a phêl-droed yn benodol, sylwebu ar ddeg Cwpan Byd, deg Pencampwriaeth Ewro, a 29 gêm derfynol yng Nghwpan FA Lloegr.

Bu ‘Motty’ yn sylwebydd gyda’r BBC am fwy na hanner canrif, a bu’n gweithio ar Match of the Day o 1971 hyd at ei ymddeoliad yn 2018.

Ond dechreuodd ei yrfa’n ohebydd papurau newydd gyda’r Barnet Press a’r Sheffield Morning Telegraph, ac fe fu’n gweithio’n llawrydd i BBC Radio Sheffield cyn ymuno â’r Gorfforaeth yn llawn amser yn 1968 gan weithio fel gohebydd chwaraeon gyda Radio 2.

Fe ddaeth i amlygrwydd ar Match of the Day wrth sylwebu ar un o’r gemau enwocaf yn hanes Cwpan FA Lloegr, rhwng Henffordd a Newcastle yn 1972 gyda Ronnie Radford yn sgorio un o’r goliau gorau yn hanes y gystadleuaeth.

Roedd yn fyd-enwog am ei wybodaeth am y byd pêl-droed a’i gôt ac erbyn i’w yrfa ddod i ben, roedd e wedi sylwebu ar bron i 2,500 o gemau.

Derbyniodd e OBE yn 2001 am ei wasanaeth i’r byd darlledu chwaraeon.

Teyrngedau

“Cwsg mewn hedd, John Motson,” meddai Clwb Pêl-droed Abertawe, wrth dalu teyrnged iddo.

“Yn lejend darlledu ac yn llais pêl-droed i gynifer.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau John ar yr adeg eithriadol o anodd hon.”

Mae Simon Davies, sylwebydd pêl-droed BBC Cymru, wedi ei gymharu â nifer o leisiau mawr eraill y byd chwaraeon.

“Fel gyda Bill McLaren a rygbi, Murray Walker ac F1, Peter O’Sullevan a rasio ceffylau, John Motson OEDD llais pêl-droed am genhedlaeth,” meddai.