Bydd gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn mynd yn ei blaen yn ôl i disgwyl, yn dilyn cytundeb rhwng y chwaraewyr a phenaethiaid Undeb Rygbi Cymru.
Roedd amheuon ynghylch y gêm yn dilyn anghydfod tros gyflogau, wrth i’r chwaraewyr fygwth streicio, ar ôl cerdded allan o ginio noddwyr yn ddiweddar.
Yn sgil yr anghydfod, mae’r prif hyfforddwr Warren Gatland wedi gohirio’r gynhadledd i gyhoeddi ei dîm a sesiwn ymarfer.
Pe bai’r gêm wedi cael ei gohirio, gallai fod wedi costio hyd at £10m i Undeb Rygbi Cymru.
Fe osododd y chwaraewyr derfyn amser, heddiw, i gael datrysiad i’r sefyllfa cyn bwrw ymlaen â’u streic.
Yn sgil y bygythiad, mae cyfres o gyfarfodydd wedi’u cynnal rhwng cynrychiolwyr y rhanbarthau sydd yn rhan o’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol, ac yna rhwng y Bwrdd a’u cadeirydd Malcolm Wall, cynrychiolwyr y clybiau ac Undeb Rygbi Cymru, gan gynnwys y Prif Weithredwr dros dro Nigel Walker.
Ar ôl i fwrdd Undeb Rygbi Cymru gyfarfod yn rhithiol, cafodd cyfarfod arall ei gynnal â Ken Owens, capten y tîm cenedlaethol.
Beth achosodd y ffrae?
Roedd chwaraewyr Cymru eisiau datrysiad i dair sefyllfa cyn cytuno i chwarae yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn (Chwefror 25).
- Cynrychiolaeth i Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru yng nghyfarfodydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol
- Dileu’r orfodaeth fod rhaid i chwaraewyr tu allan i Gymru fod wedi ennill 60 cap er mwyn cynrychioli’r tîm cenedlaethol
- Dileu’r gofyniad fod chwaraewyr yn derbyn 80% o’u harian mewn cyflog a’r 20% mewn bonws
Beth sydd wedi cael ei gytuno?
Yn sgil y cyfarfodydd, mae nifer o gamau wedi cael eu cytuno er mwyn i gêm Cymru yn erbyn Lloegr gael mynd yn ei blaen.
- Mae’r disgwyliad i chwaraewyr dderbyn 20% o’u cyflog mewn bonws wedi’i ddileu
- Gostwng y gofyniad capiau o 60 i 25
- Bydd opsiwn gan y chwaraewyr ac asiantiaid i gael cytundeb sefydlog neu gytundeb hyblyg sy’n rhannol sefydlog ac yn rhannol amrywiol