Mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud heddiw (dydd Mercher, Chwefror 22) ynglyn â thynged gêm Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 25).
Roedd chwaraewyr Cymru wedi gosod heddiw fel terfyn amser ar gyfer datrys yr anghydfod ynghylch cytundebau.
Pe bai’r gêm yn erbyn Lloegr yn cael ei gohirio neu ei chanslo, mae’n bosib y gallai Undeb Rygbi Cymru golli £10m.
Mae Warren Gatland eisoes wedi gohirio cyhoeddi ei dîm ar gyfer y gêm fawr.
Yn wreiddiol, roedd disgwyl iddo gyhoeddi’r tîm 48 awr yn gynnar, ond mae ansicrwydd o hyd a fydd y gêm yn cael ei chynnal o ganlyniad i streic bosib gan chwaraewyr Cymru tros gyflogau.
Ar y cae, mae Cymru eisoes wedi colli yn erbyn yr Alban ac Iwerddon tra bod Lloegr wedi colli yn erbyn yr Alban cyn curo’r Eidal.
Beth yw’r sefyllfa erbyn hyn?
Ar hyn o bryd, mae gan hyd at 70 o chwaraewyr yng Nghymru gytundebau sy’n dod i ben ddiwedd y tymor.
Oherwydd hynny, maen nhw’n ansicr a fydd ganddyn nhw swyddi wedi mis Mehefin.
Beth yw ymateb yr awdurdodau?
Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, maen nhw wrthi’n ffurfio cytundebau ariannol gyda’r pedwar rhanbarth – Rygbi Caerdydd, y Gweilch, y Scarlets a’r Dreigiau.
Beth arweiniodd at yr anghydfod?
Dechreuodd y trafodaethau fis Ionawr y llynedd, a rhoddodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol sêl bendith i gytundeb ariannol chwe blynedd rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau ym mis Rhagfyr.
Beth nesaf?
Fodd bynnag, dyw’r cytundeb hwn ddim wedi’i lofnodi eto.
Heb gytundeb cadarn dyw’r rhanbarthau ddim yn gallu ffurfio cytundebau gyda chwaraewyr.
O ganlyniad, fe allai rhai fod yn ddi-waith ymhen ychydig fisoedd.
Beth maen nhw eisiau ei gael yn sgil y trafodaethau?
Mae cynrychiolwyr y rhanbarthau yn galw am le mewn cyfarfodydd o’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol, yn ogystal â thro pedol ar y gofynion fod rhaid i chwaraewyr dderbyn 80% o’u cyflog gyda’r 20% arall yn dod ar ffurf bonws.
Maen nhw hefyd yn awyddus i weld y rheol 60 cap – sy’n golygu nad yw chwaraewr sydd wedi chwarae i glwb y tu allan i Gymru yn cael ei ddewis i’r tîm cenedlaethol os nad ydyw eisoes wedi ennill 60 o gapiau – yn cael ei ddiddymu.