Mae ail gais cynllunio i ymestyn unig stadiwm rasio milgwn Cymru wedi cael ei wrthod, ond mae’r rheolwr yn mynnu nad dyma’r diwedd.

Mae stadiwm rasio Valley Greyhounds wedi’i lleoli yn Ystrad Mynach, a’r cynlluniau yw adeiladu cytiau cŵn ar gyfer 200 o gŵn ar y safle.

Mae adran gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer y datblygiad, o ganlyniad i ddatganiad trafnidiaeth “annigonol” a diffyg asesiad o ganlyniadau llifogydd.

Roedd disgwyl i’r cytiau ddisodli adeilad yr hen Glwb Pêl-droed Athletaidd Tredomen.

“Nid dyma’r diwedd,” meddai Malcolm Tams, sy’n 67 oed ac yn rheoli’r stadiwm ers 2008.

“Bydd ail gyflwyniad yn mynd i mewn erbyn mis Mawrth gydag asesiad o ganlyniadau llifogydd a system rheoli trafnidiaeth newydd.”

Daw’r penderfyniad ar ôl i gais ar wahân gan Valley Greyhounds ar gyfer bar ychwanegol, ystafell bartïon, blwch beirniaid a milfeddygfa gael ei wrthod fis Medi y llynedd.

Mae’r cynlluniau i ymestyn y stadiwm yn rhan o’r nod o gael trwydded rasio broffesiynol erbyn Ionawr 2024.

Mae’r gwaith adeiladu ar y safle eisoes wedi dechrau.

Ymgyrch gan elusennau lles anifeiliaid

Mae’r elusennau lles anifeiliaid Hope Rescue a Greyhound Rescue Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn yr estyniad.

Dywed Vanessa Waddon, uwch bennaeth gweithrediadau Hope Rescue, ei bod hi’n “falch” o weld y cynlluniau’n cael eu gwrthod.

“Byddai’r datblygiad wedi arwain at anafiadau hyd yn oed yn fwy difrifol a marwolaethau ar gyfer y milgwn sy’n rasio ar y trac o ganlyniad i’r cynnydd arfaethedig mewn rasio o un noson i bedwar diwrnod neu noson, er mwyn ufuddhau i gytundebau ffrwd byw llewyrchus at ddibenion gamblo,” meddai.

“Fodd bynnag, rydym yn gofidio bod y cytiau cŵn eisoes wedi cael eu hadeiladu, ac y bydd yr adeiladu a’r estyniad yn parhau er gwaetha’r penderfyniad cynllunio.”

Mae cynlluniau Valley Greyhounds weidi cael cryn gyhoeddusrwydd yn ddiweddar, wrth i Bwyllgor Deisebau’r Senedd gefnogi deiseb Hope Rescue i wahardd rasio milgwn yng Nghymru.

Beirniadu deiseb

Mae Malcolm Tams wedi beirniadu’r ddeiseb am fethu â chynrychioli safbwyntiau Cymru, o ganlyniad i’r ffaith mai dim ond 18,707 allan o’r 35,101 o lofnodion ar y ddeiseb sydd wedi dod gan bobol o Gymru.

“Mae gan bawb ei feddwl ei hun, os nad ydych chi’n hoffi rasio milgwn yna peidiwch â dod yma,” meddai wrth ymateb i’r gwrthwynebiad.

“Mae hi’r un fath o ran unrhyw gamp.

“Mae pobol yn credu nad oes ots gennym, ond mae ots gennym.

“Nid arian sy’n bwysig i ni, ond y gymuned rydyn ni wedi’i chreu.”

Ymateb gwleidyddion

Ond beth yw barn gwleidyddion?

Mae’r Cynghorydd Philippa Leonard, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio, yn dweud ei bod hi’n gwrthwynebu cynlluniau’r stadiwm ar gyfer yr estyniad.

“Fy marn bersonol am hyn yw y byddai’n well gen i pe bai rasio milgwn yn cael ei wahardd yng Nghymru, ond mae’r cais y tu hwnt i’m rheolaeth i, ac fe fydd yn nwylo’r pwyllgor,” meddai.

“Dw i’n caru anifeiliaid fy hun, a dw i ddim yn hoffi’r ffordd maen nhw’n cael eu trin ar ôl i’w gyrfaoedd orffen.”

Mae nifer o Aelodau’r Senedd wedi cefnogi’n gyhoeddus y gwaharddiad ar rasio milgwn, gan gynnwys Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru, a Rhianon Passmore o Lafur.

“Tra fy mod i’n gwrthwynebu’r estyniad, dw i’n awyddus i gael sgwrs gyda phob ochr sydd ynghlwm,” meddai Hefin David, Aelod Llafur o’r Senedd dros Gaerffili.

Un o bwyllgorau’r Senedd yn cefnogi gwahardd rasio milgwn

Elin Wyn Owen

“Dydi [rasio milgwn] ddim yn rywbeth ddylai gael digwydd mewn cymdeithas wareiddiedig,” meddai Delyth Jewell

Beirniadu cynlluniau i ehangu unig stadiwm rasio milgwn Cymru

Rhiannon James, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae Delyth Jewell yn galw am sicrwydd ynghylch diogelwch anifeiliaid yn sgil gwrthwynebiad sylweddol yn yr ardal leol