Mae gêm tîm pêl-droed merched Cymru yn erbyn yr Alban yng Nghwpan Pinatar yn Sbaen wedi gorffen yn gyfartal 1-1.

Aeth yr Albanwyr ar y blaen drwy gôl gynnar Sophie Howard oddi ar ei phen yn dilyn cic gornel, cyn i Ceri Holland unioni’r sgôr cyn yr egwyl.

Mae Cymru ar frig y tabl, ond gallai Gwlad yr Iâ ennill y tlws pe baen nhw’n cael pwynt yn erbyn y Ffilipinas heno (nos Fawrth, Chwefror 21).

Ond byddai Cymru’n ennill pe bai Gwlad yr Iâ yn colli.

Y gêm hon yw’r tro cyntaf i Gymru idlio gôl yn y gystadleuaeth.