Dydy Joe Allen ddim yn cael ei werthfawrogi’n llawn yn y byd pêl-droed oherwydd iddo symud i Stoke o Lerpwl.
Dyna oedd honiad Owain Tudur Jones, un arall o gyn-chwaraewyr canol cae’r Elyrch, ar y podlediad Y Coridor Ansicrwydd yn dilyn ymddeoliad rhyngwladol y chwaraewr canol cae yn ddiweddar.
Daeth cyhoeddiad y Cymro Cymraeg o Sir Benfro ar ôl iddo ennill 74 o gapiau dros ei wlad, ac ymddangosiadau dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghwpan y Byd 2022 a dwy Ewros, yn 2016 a 2021.
Yn 32 oed, does dim amheuaeth y byddai ei oedran wedi ei alluogi i barhau i chwarae am rai blynyddoedd eto, ond dyw ‘Pirlo Penfro’ ddim wedi cael blynyddoedd gorau ei yrfa o ran anafiadau.
Yn Qatar, bu’n rhaid iddo fe fethu’r gêm agoriadol yn erbyn yr Unol Daleithiau, ond cafodd e gryn ganmoliaeth gan Rob Page a Russell Martin am frwydro i fod yn holliach erbyn yr ail gêm yn erbyn Iran ac yna i ddechrau’r gêm yn erbyn Lloegr, sef ei ymddangosiad olaf yn y crys coch.
Does dim amheuaeth ei fod e’n un o’r chwaraewyr mwyaf dylanwadol yn ystod Oes Aur Cymru ac fel aelod o’r drindod gyda Gareth Bale ac Aaron Ramsey.
Chwaraeodd e’n gyson dros y blynyddoedd i Lerpwl, gan gynnwys 26 o gemau yn 2013-14 wrth i’w dîm golli allan ar dlws yr Uwch Gynghrair o drwch blewyn.
Roedd e’n allweddol yn 2016 wrth i’r cochion gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Gynghrair, gan sgorio’r gic fuddugol o’r smotyn i gyrraedd y ffeinal yn erbyn neb llai na Stoke.
Cyn diwedd tymor 2015-16, chwaraeodd Allen yn rownd derfynol Cynghrair Europa yn erbyn Sevilla cyn cyhoeddi’i ddymuniad i adael, gan egluro’n ddiweddarach ei fod e’n awyddus i chwarae pêl-droed yn fwy rheolaidd – rhywbeth oedd heb ddigwydd ers i Jurgen Klopp gael ei benodi i olynu Rogers.
£2m yn unig ddaeth oddi ar ei werth yn y pedair blynedd dreuliodd e yn Anfield, oedd yn brawf o’r hyn oedd ganddo i’w gynnig ar y lefel uchaf o hyd.
Cafodd ei enwi hefyd ymhlith 50 chwaraewr gorau UEFA yn dilyn haf euraid Cymru yn Ffrainc.
Ond cafodd Stoke flynyddoedd llwm yn yr Uwch Gynghrair, gan ostwng yn y pen draw yn 2018, ac fe arhosodd y Cymro’n ffyddlon iddyn nhw gan lofnodi cytundeb pedair blynedd newydd.
Chwaraeodd Allen 221 o weithiau i’r Potters, gan sgorio ugain gôl.
Diolchodd y clwb iddo am ei “gyfraniad digamsyniol” wrth i Michael O’Neill gyfeirio at barch mawr pawb yn y clwb tuag ato a’i broffesiynoldeb.
Efallai nad oedd e’n un oedd yn mynd i serennu ym mhob gêm ond fel roedd Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sôn yn y podlediad, yn anad dim mae e’n ddibynadwy ac yn gadarn. Dyna’r union rinweddau fydd eu hangen i helpu Abertawe i godi o’r deuddegfed safle i fod yn brwydro i gyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Mae yna ddywediad yn y byd pêl-droed nad oes neb eisiau mynd i Stoke ganol wythnos lawiog. Ond daeth Abertawe o ganolbarth Lloegr ar ddiwedd y gêm gyfatebol ym mis Awst gyda phwynt.
Mae Stoke yng ngwaelodion y tabl ar hyn o bryd, ond dim ond pum pwynt sy’n eu gwahanu nhw a’r Elyrch.
Mae digon o bêl-droed i ddod, a digon o amser i Joe Allen gyfrannu eto i’r crys gwyn.
- Mae’r erthygl hon yn ymddangos yn rhaglen swyddogol Clwb Pêl-droed Abertawe ar gyfer y gêm yn erbyn Stoke yn Stadiwm Swansea.com heno (nos Fawrth, Chwefror 21).