Yn groes i’r disgwyl, dydy Warren Gatland ddim wedi cyhoeddi tîm rygbi Cymru i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 25).
Yn wreiddiol, roedd disgwyl iddo gyhoeddi’r tîm 48 awr yn gynnar, ond mae ansicrwydd o hyd a fydd y gêm yn cael ei chynnal o ganlyniad i streic bosib gan chwaraewyr Cymru tros gyflogau.
Daw hyn yn sgil anghydfod rhwng y rhanbarthau a’u chwaraewyr, a’r tîm cenedlaethol, ac Undeb Rygbi Cymru.
Mae’r chwaraewyr wedi gofyn am ddatrysiad erbyn fory (dydd Mercher, Chwefror 22), neu gallai’r gêm orfod gael ei gohirio, ac fe fydd cyfarfod rhwng y chwaraewyr a’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB), sy’n cynrychioli’r rhanbarthau, fory hefyd.
Pe bai’r gêm yn erbyn Lloegr yn cael ei gohirio neu ei chanslo, hyd yn oed, mae’n bosib y gallai Undeb Rygbi Cymru golli £10m.
Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) eisiau:
- cael eu cynrychioli yng nghyfarfodydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol
- dileu’r rheol 60 cap i chwaraewyr sy’n chwarae i glwb tu allan i Gymru
- tro pedol ar y gofynion fod rhaid i chwaraewyr dderbyn 80% o’u cyflog gyda’r 20% arall yn dod ar ffurf bonws
Mae lle i gredu bod Undeb Rygbi Cymru bellach yn adolygu’r rheol 60 cap, ac y bydd Cymdeithas y Chwaraewyr yn cael gwahoddiad i gyfarfodydd, ond fod y 20% ar ffurf bonws am gael ei gyflwyno.
Ar y cae, mae Cymru eisoes wedi colli yn erbyn yr Alban ac Iwerddon tra bod Lloegr wedi colli yn erbyn yr Alban cyn curo’r Eidal.
Yn ystod cynhadledd i’r wasg, cadarnhaodd Warren Gatland fod nifer o gyfarfodydd ar y gweill, a’i fod e wedi gohirio cyhoeddi’r tîm er mwyn rhoi amser i gynnal y trafodaethau hynny.
Wrth amddiffyn ei reol 60 cap, dywedodd fod yna fantais i chwaraewyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau.
Ac er gwaetha’r “cyfnod heriol” ers iddo ddychwelyd i fod yn brif hyfforddwr, mae’n dweud nad yw’n difaru derbyn y swydd yn yr hinsawdd sydd ohoni.